Mae Cyngor Sir Penfro’n dymuno comisiynu ymarferydd creadigol arweiniol yn gweithio mewn unrhyw gyfrwng i ddylunio a chyflwyno prosiect cyfranogol wedi’i ysbrydoli gan dri lliain bwrdd wedi’u brodio â llaw yn dyddio o 1914, 1923 a 1937 yn Amgueddfa Tref Hwlffordd. Mae’r prosiect yn rhan o raglen o weithgareddau celf, treftadaeth a diwylliannol dros dro sy'n seiliedig ar ddigwyddiadau yn Sir Benfro 2024 a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae gan y comisiwn nodau allweddol o gynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol trefi, cyfrannu at fwy o ymdeimlad o falchder mewn lle a diogelu a gwella treftadaeth.

Crëwyd y tri lliain gan wahanol grwpiau cymunedol a chrefyddol ar gyfer ffeiriau cyhoeddus yn yr 20fed Ganrif. Roeddent yn ddigwyddiadau codi arian a gallai'r bobl a oedd yn mynychu'r ffair dalu i lofnodi'r lliain mewn pensil ac yn ddiweddarach cafodd y llofnodion hyn eu brodio ar y lliain. Wrth edrych yn ôl ar yr arteffactau hyn o’r cyfnod presennol, mae’r llieiniau'n cynrychioli ciplun unigryw o’r bobl oedd yn byw, neu’n gweithio yn Hwlffordd yn ystod y blynyddoedd hynny. Mae’r comisiwn hwn yn gyfle i fyfyrio gyda’r gymuned ar y cyndeidiau hynny a’u perthynas â’r dref, a chreu ciplun newydd ar gyfer 2024 mewn cyfrwng priodol ar gyfer diwylliant ac ymdeimlad o hunaniaeth heddiw.

Rhaid cwblhau’r prosiect erbyn 15 Rhagfyr 2024.

Gwahoddir dyfynbrisiau a chynigion hyd at uchafswm o £15,000 i gynnwys yr holl gostau.

Dyddiad cau 5pm 5 Gorffennaf. Anfonwch neges e-bost at spfcultureandarts@pembrokeshire.gov.uk i gael y manylion llawn.

 

Dyddiad cau: 05/07/2024