Mae Black RAT Productions a Sefydliad y Glowyr, Coed-duon, wedi cyhoeddi eu cynhyrchiad newydd sbon ar gyfer eu taith yn ystod tymor yr Hydref 2025 Dai Cula: Prince of the Valleys.
Bydd y sioe gomedi newydd a gafodd ei ysgrifennu gan Richard Tunley yn cael ei pherfformio yn Sefydliad y Glowyr, Coed-duon, rhwng 1 a 3 Hydref, cyn teithio i leoliadau eraill ledled Cymru megis Abertyleri, Caerdydd, Y Barri, Treorci, Aberteifi, Y Fenni, Pontardawe, Casnewydd, Aberdâr, Aberhonddu a Maesteg.
Mae'r sioe wedi cael ei chreu'n arbennig ar gyfer lleoliadau yng Nghymru ac mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ei chefnogi.
Stori am ystlymod, fampirod a Choed-duon...
Wedi iddo wylio'r holl gyfres o Who Do You Think You Are? Mae Dracula yn credu'n sicr bod ganddo waed brenhinol, diolch i gysylltiad amheus rhwng 'Vlad the Impaler' a Thywysog Cymru. Ar ôl archebu arch ar-lein sy'n cyrraedd mewn pecyn gwastad, mae'n cadw lle mewn Airbnb, a bant â fe i'r Fforest Ddu...ond, mae'n diweddu lan yng Nghoed-duon yng nghymoedd De Cymru! Yn y lle cyntaf, mae'r bobl leol yn meddwl ei fod yn gymeriad ecsentrig sy'n gwisgo clogyn. Ond wrth i bobl fynd ar goll heb reswm, mae'r garfan rheoli pla yn cael ei galw i ymchwilio'r cynnydd sydyn yn nifer yr ystlumod, ac mae trigolion y dref yn dechrau ystyried os yw'r ymwelydd newydd yn gymeriad arferol...
Brand unigryw Black RAT Productions o gomedi corfforol
Bydd cwmni Black RAT Productions yn cyflwyno stori am ystlumod, fampirod a Choed-duon i gynulleidfoedd gyda'i arddull gwallgof ei hun. Mae'r cwmni'n cael ei adnabod am greu a chyflwyno theatr deinamig, adloniannol ledled Cymru gan gyfuno drama theatrig a chomedi corfforol. Gareth Tempest, Olivia Edwards a Richard Tunley yw'r cast aml-dalentog ar gyfer y sioe gyffrous yma.
Yn ogystal â The Three Musketeers yn ystod yr Hydref y llynedd, mae cynyrchiadau llwyddiannus eraill gan Richard Tunley a chriw Black RAT wedi cynnwys: Bouncers, Up ’n’ Under, Neville’s Island, Art, Boeing Boeing, Bedroom Farce, Loot, One Man Two Guvnors, The 39 Steps a The Invisible Man, a The Adventures of Sherlock Holmes.
Meddai Richard Tunley, Cyfarwyddwr Black RAT, ac actor ac awdur Dai Cula, "Rydw i wedi creu Dai Cula i fod yn gomedi a hanner, yn llawn chwerthin, balchder y cymoedd ac ychydig o arlleg. Mae'n gomedi am hunaniaeth, treftadaeth, a gwir ystyr bod yn Gymreig. Mae Gareth Tempest ac Olivia Edwards, sy'n ymuno â fi yn y cast, yn hynod dalentog ac rwy'n edrych ymlaen at fynd â'r sioe yma ar daith i leoliadau ledled Cymru."
Mae'r cynhyrchiad yn addas ar gyfer rhai 11 oed a hŷn.
Am ragor o wybodaeth neu i brynu tocynnau, ewch i www.blackratproductions.co.uk.