Sioe ddyfeisgar agos-atoch am ddyfodol cymunedau Cymraeg yn ardaloedd arfordirol Cymru, Datblygwyd y sioe gan Rhiannon Mair o dan gyfres gomisiynau bach Volcano 2022. Cafodd ei pherfformiadau yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022 hefyd.
Bellach wedi’i hailddatblygu ar gyfer theatrau bach a mannau cymunedol, mae’r sioe wedi ymddangos mewn lleoliadau ledled Cymru drwy 2023 a 2024.
Yr wythnos hon mae’n ymddangos yn Rhydaman, yn Theatr y Glowyr hardd, hanesyddol ac agos-atoch yn Wind St, am 7:30pm ar y 6ed o Fawrth. Mae Volcano yn falch iawn o fod yn dychwelyd i’r Glowyr ar ôl sawl blwyddyn.
Mae Ar Lan y Môr yn cael ei greu a’i berfformio gan Rhiannon Mair, gyda Chymorth Creadigol gan Elis Pari a Sera Moore Williams. Bydd Rhiannon hefyd yn perfformio’r sioe i fyfyrwyr prifysgol yr wythnos nesaf yng Nghanolfan Arad Goch, fel rhan o gwrs ar theatr safle-benodol.
Mae Ar Lan y Môr ar gael i gymunedau o dan gynllun Noson Allan