Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi estyn llongyfarchion gwresog i Wrecsam ar gyrraedd rhestr fer derfynol Dinas Ddiwylliant y DU 2025.
Gan siarad heddiw, dywedodd Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Phil George:
“Mae pawb yng Nghyngor Celfyddydau Cymru yn falch tu hwnt bod Sir Fwrdeistrefol Wrecsam wedi ei chyhoeddi fel un o’r pedwar ymgeisydd ar restr derfynol cais Dinas Ddiwylliant y DU 2025 – yr unig gais o Gymru i gyrraedd y rhestr fer derfynol.”
“Mae Wrecsam wedi bod yn rhan allweddol o dirwedd ddiwylliannol gogledd Cymru ers tro byd ac wedi dangos trwy brosiectau megis ailddatblygiad Tŷ Pawb - sydd wedi ennill gwobrau lu - bod y gymuned leol yn rhoi’r pwys mwyaf ar gelfyddydau a diwylliant. Bu ail-ddatblygiad Tŷ Pawb o hen farchnad y bobl a’r maes parcio cyfagos yn fodd o greu canolfan gelfyddydol sy’n torri tir newydd, a gwnaed hyn gyda chymorth arian cyfalaf oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru.
“Mae’r tîm sydd wedi arwain y cais hwn wedi gwneud gwaith ardderchog hyd yma o gyrraedd y rhestr fer derfynol hon - o ystyried bod y nifer fwyf erioed o geisiadau, sef ugain, wedi eu cyflwyno i adran Ddiwylliant Chwaraeon a’r Cyfryngau Llywodraeth San Steffan. Edrychwn ymlaen nawr at weld datblygu’r cais ymhellach gan y tîm wrth i ni aros am y penderfyniad terfynol ar Ddinas Ddiwylliant 2025 y DU a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai.”
DIWEDD Llun, 21 Mawrth 2022
Nodiadau i olygyddion:
- Mae manylion pellach ynghylch rhestr fer Dinas Ddiwylliant y DU 2025 i’w cael o wefan DCMS - https://www.gov.uk/government/news/uk-city-of-culture-2025-shortlist-revealed
- mae manylion pellach am gais Wrecsam i'w gweld yma