Fel dyn dŵad, mae’r coreograffydd Fearghus Ó Conchúir yn cydnabod fod yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) fframwaith blaengar ar gyfer cynnwys y celfyddydau yn y broses o ailddychmygu Cymru a’r byd yn llefydd mwy teg, cynhwysol a chynaliadwy : onid yw hyn yn destun balchder?

Yn 2015, wrth ymateb i ymgynghoriad Adran Gelfyddydau, Treftadaeth a’r Gaeltacht ar ei dogfen ddrafft Culture 2025, mynegais obaith y byddai’r strategaeth Culture 2025 yn darparu fframwaith uchelgeisiol ar gyfer datblygu gweithgaredd diwylliannol yn Iwerddon. Awgrymais y byddai’r cyfryw ddatblygu yn dibynnu ar fwy o gymathu gweithgaredd diwylliannol, y celfyddydau, treftadaeth a’u hymarferwyr/cyfranogwyr ym mhob agwedd o bolisi llywodraeth: iechyd, cysylltiadau tramor, buddsoddi mewn isadeiledd, lles, addysg. Ni fyddai hyn yn golygu defnyddio diwylliant fel offeryn i wasanaethu agendâu eraill, ond yn hytrach gymathu, wrth ddatblygu polisi a phenderfyniadau strategol, y safbwyntiau neilltuol a’r gwerth sy’n deillio o fod yn rhan o weithgaredd diwylliannol a mynegiant creadigol. Byddai’n golygu cydnabod artistiaid fel dinasyddion a chanddynt safbwyntiau a sgiliau i’w rhannu gyda’u cyd-ddinasyddion wrth greu cymdeithasau gwell i fwy o bobl.

Nodais, fel enghraifft o’r modd y gallasai hyn weithio, y cymathu uchelgeisiol a oedd newydd gael ei wneud yn ddeddf gan Senedd Cymru gyda’i Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) arloesol. Yn 2015, Cymru oedd y genedl gyntaf yn y byd i ddeddfu ynghylch Agenda 2030 y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy ac wrth wneud hynny hi oedd y genedl gyntaf yn ogystal i osod diwylliant yn gonglfaen ei chynllun datblygiad cynaliadwy. Roedd ac mae’r Ddeddf yn eithriadol wrth osod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gyrraedd amcanion Llesiant mewn modd cynaliadwy; yn eu plith y mae’r nod o wneud Cymru’n gymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn diogelu diwylliant, treftadaeth a’r iaith Gymraeg ac yn annog pobl i gyfranogi o’r celfyddydau, o chwaraeon ac o adloniant. Mae hyn yn ymrwymiad i gydnabod gwerth gwybodaeth a phrofiad artistig wrth adeiladu dyfodol cynaliadwy nid yn unig i Gymru, ond i’r byd.

O’r cychwyn, mae Cymru wedi datblygu ei hymagweddu at lesiant â safbwynt fyd-eang, drwy gydweithio â gwladwriaethau, cenhedloedd, dinasoedd a rhanbarthau eraill ar amryfal fentrau cynaliadwyedd. O ganlyniad, tra bo gan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) rym deddfwriaethol yng Nghymru, mae ei hymdeimlad o gyfrifoldeb yn fyd-eang, wrth greu mandad y dylai’r genedl a’i chyrff cyhoeddus, “wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru… ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.”

Wrth i ni ddechrau dychmygu a chynllunio dyfodolau yn ymateb i bandemig Covid 19, mae yna gyfle yn ystod ein seibiant gorfodol i ystyried sut y gallasem wneud pethau’n wahanol, sut i osgoi dychwelyd at systemau a sefydliadau nad oedd yn gweithio i lawer. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cynnig map i deithio tuag at gymdeithas mwy hafal, cynhwysol a chynaliadwy yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnig llwybr i Gymru tuag at allu rhannu ei gwybodaeth yn hyderus gyda’r byd a chydweithio’n hyderus gyda phartneriaid rhyngwladol er mwyn manteisio ar brofiadau o lefydd eraill. Mae’r lleol, y cenedlaethol a’r rhyngwladol wedi’u cyplysu mewn ffyrdd sy’n llesol i bawb dan nawdd y Ddeddf. Nid yw’n ddiffyndollol (protectionist). Nid yw’n ynysyddol ac ar adeg o fygythiad lle y byddai’n demtasiwn gan rai i encilio a chulhau, mae’n cynnig safbwynt agored, hael sy’n cydnabod ein cyd-ddibyniaeth blanedol. Yn hollbwysig, caiff y celfyddydau eu cydnabod fel partneriaid allweddol wrth ddychmygu a gwireddu dyfodol gwell i Gymru a’r byd. Mae cymaint i’w ddathlu mewn gweledigaeth mor flaengar, cymaint sy’n ateb y galwadau i ailgydbwyso economïau a chymdeithasau mewn ymateb i’r argyfwng Covid.

Ers cyrraedd Cymru, rwyf wedi bod yn rhan o sgyrsiau preifat a chyhoeddus sydd wedi galarnadu diffyg brand hyderus y genedl Gymreig. Rwyf wedi cael fy holi’n llawn cenfigen ynglŷn â llwyddiant Brand Iwerddon a’r modd y mae’n blaenoriaethu’r celfyddydau, diwylliant a chreadigrwydd. Does bosib fod yna yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gyfle clodwiw a hynod a allai fod yn gonglfaen ar gyfer cynnig Cymreig a Chymraeg hyderus i’w dinasyddion ac i’r byd.

Eisoes, mae yna enghreifftiau nodedig o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus ar y cyd sy’n cynnwys y celfyddydau: mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Conffederasiwn GIG Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru - sy’n darparu fframwaith ar gyfer llawer o’r gwaith celfyddydol ac iechyd sy’n cael ei wneud yng Nghymru - yn destun eiddigedd mewn awdurdodaethau cyfreithiol eraill ac mae hynny wedi bod yn bosib, nid y lleiaf oherwydd y ddyletswydd y mae’r Ddeddf yn ei gosod ar gyrff cyhoeddus. Mae Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru hefyd wedi cydnabod pwysigrwydd y celfyddydau: “Mae llesiant celfyddydol unigolyn, p’un ai a ydynt yn medru cael mynediad at a mwynhau’r celfyddydau, mynd i’r sinema, cyfranogi o ddosbarth celf, ymuno â chôr, a theimlo’n rhydd i fynegi eu hunain, yn allweddol i safon bywyd pawb ac yn egluro pam y mae gan y celfyddydau ran allweddol i’w chwarae pan fo’n dod at lesiant cenedlaethau’r dyfodol.”

Fodd bynnag, wrth edrych ar archwiliad 2018 o’r flwyddyn gyntaf o weithgaredd yn ymateb i ddeddfwriaeth Cenedlaethau’r Dyfodol, dim ond dwywaith mewn 42 tudalen y caiff y celfyddydau eu crybwyll. Mae’r ddau gyfeiriad yn trafod Cyngor y Celfyddydau ac wedi’u cyfyngu i astudiaeth achos penodol: felly nid yw’n adroddiad sy’n awgrymu bod y celfyddydau wedi’u plethu i weithgaredd pob corff cyhoeddus. Mae awdur yr adroddiad, Huw Vaughan Thomas, wedi nodi “mae risg bod rhai yn ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel ‘rhywbeth arall i’w wneud’. Oni fydd y cyrff a’r unigolion hynny yn dechrau gweld sut y gall datblygu cynaliadwy eu helpu i ymdrin â heriau mawr o ran y gyllideb a gwasanaethau, yn hytrach na’i weld fel baich ychwanegol, ni fyddant yn llwyddo i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle y mae’r Ddeddf yn ei gynnig.” (1)

Felly beth yw’r cyfleoedd yn awr? A sut y gall y celfyddydau gyda’i hecoleg o bobl broffesiynol, caredigion, unigolion, sefydliadau, cymunedau a chynulleidfaoedd, fod ar ei gorau wrth brosesu’r profiad o fyw drwy pandemig, wrth adfer yr hyn sydd wedi bod yn werthfawr ac wrth ddarganfod yr hyn sydd ei angen arnom nesaf?

Mae’r ONS wedi datgelu bod y gyfran o bobl ym Mhrydain sy’n cofnodi lefelau uwch o orbryder wedi mwy na dyblu ers diwedd 2019 gyda bron i hanner y boblogaeth dros 16 oed wedi’u heffeithio. Mae gweithwyr rheng flaen, sy’n gweithio i’r GIG ac fel arall, yn benodol yn wynebu risg o ddioddef PTSD a chyflyrau straen eraill. Mae anghyfartaleddau cymdeithasol ac economaidd sydd eisoes yn bodoli yn cael eu dwysáu ag effeithiau negyddol ar iechyd corfforol a meddyliol y sawl sydd eisoes o dan anfantais. Mae rhai ymchwilwyr iechyd meddwl wedi rhybuddio yn erbyn adrodd am y gofid sydd ar bobl yn ystod y pandemig yn nhermau cynnydd mewn salwch meddwl. Iddynt hwy, mae’r gofid y mae’r rhan fwyaf yn ei deimlo yn arwydd o iechyd meddwl da – pryder iach am eraill – yn hytrach na diffyg sydd angen ei feddyginiaethu. Drwy labelu’r gofid hwnnw yn afiechyd meddwl, mae yna berygl ein bod yn ceisio datrysiadau seiciatryddol, wedi’u darparu gan weithwyr meddygol proffesiynol, er mai’r hyn sydd ei angen yw “the chance to channel these feelings into finding solutions for the very real social problems highlighted by the pandemic.”(2) 

Mae’r cyfle i fyfyrio, i brosesu, i fynegi ac i ddychmygu gwell yn rhywbeth y gall y celfyddydau ei ddarparu, er y bydd yn gwneud hynny mewn rhythmau a ffurfiau fydd yn gorfod parchu gallu pobl i ymateb ar raddfeydd gwahanol o gyflymder. Mae’r Athro James Rutherford wedi gwneud gwaith ymchwil yn ymwneud â’r modd y mae artistiaid wedi gweithio mewn argyfyngau megis rhyfel a thrychinebau naturiol, ac mae wedi awgrymu y pellaf y bo pobl oddi wrth eiliad a lleoliad yr argyfwng, un ai’n ddaearyddol neu’n amseryddol, yr hawsaf ydyw iddynt i gyflawni gwaith artistig sy’n ymwneud â’r drychineb. (3)

Os oes digon o amser wedi mynd heibio yna mae pobl sydd wedi profi’r drychineb yn medru creu gwaith yn ei gylch. Os yw pobl yn ddigon pell yn ddaearyddol oddi wrth yr argyfwng, yna mae’n bosib y bydd modd iddynt wneud gwaith yn ei gylch ynghynt. Dylem gofio hyn cyn rhuthro i ddisgwyl i artistiaid neu gymunedau ymateb yn uniongyrchol i’r pandemig Covid. A dylem hefyd gofio, er bod y pandemig wedi bod yn un byd-eang, nad yw ei effeithiau wedi cael eu teimlo yr un fath: mae gwledydd gwahanol wedi profi effeithiau’r argyfwng mewn ffyrdd gwahanol, ac o fewn gwledydd gwahanol y mae grwpiau gwahanol – yn aml y rheiny sydd eisoes o dan anfantais – wedi dioddef i wahanol raddau y peryglon iechyd a’r sioc sosio-economaidd a ddaeth gyda’r cloi.

Ond dydy peidio â gwneud gwaith yn syth bin ‘ynghylch’ yr argyfwng ddim yn golygu nad yw ymgymryd ag ymarfer artistig yn ddefnyddiol. A gall gwneud hynny fod o fudd mawr i lesiant pobl, yn enwedig os ydym yn cydnabod nad yw llesiant yn ymwneud â hapusrwydd gorfodol. Tra bo’r celfyddydau yn gallu darparu dihangfa angenrheidiol, yn gallu codi calon a dyrchafu, mae llesiant hefyd yn ymwneud â’r gwytnwch hwnnw sy’n cydnabod yr hyn sydd wedi bod yn boenus ac yn heriol, sy’n ein helpu i ymgodymu â’r hyn sy’n ddigon naturiol yn emosiynau negyddol o ddicter a thristwch, ofn a gofid.(4)

Mae Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod cynsail pwysig ar gyfer y gwaith ardderchog sy’n digwydd ym meysydd y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru, a bydd gan y gwaith hwn ran allweddol i’w chwarae wrth helpu pob math o bobl i ganfod ffordd tuag at realiti newydd. Nid dyma’r celfyddydau ac iechyd fel, “a panacea for social problems or an adjunct to clinical care.  Rather it suggests that arts for health as a social movement has the potential to challenge mainstream economic and social policies driven by a bottom up approach focused on empowerment and explicitly engaged with political economy issues.” (5)

Yng Nghymru, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi dilysrwydd i’r cyfryw her i’r statws cwo economaidd a chymdeithasol, gan osod Cymru yn safle cenedl flaengar y mae’r celfyddydau a diwylliant yn greiddiol iddi, cenedl sy’n gweithio i adeiladu dyfodolau cynaliadwy i’w dinasyddion a thrwy ei safbwynt a’i chydweithio byd-eang, felly hefyd i’r byd. Fel dyn dŵad, mae’n ymddangos i mi mai dyma’r sylfaen onide ar gyfer adeiladu balchder Cymreig hael a chynhwysol.

 

--------------------------------------------------------

  1. Huw Vaughan Thomas, Myfyrio ar Flwyddyn Un: Sut mae Cyrff Cyhoeddus wedi Ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015? https://www.audit.wales/system/files/publications/reflecting-on-year-one-2018-welsh.pdf
  2. https://rcni.com/nursing-standard/newsroom/news/covid-19-not-a-mental-health-crisis-healthcare-experts-warn-159611
  3. James Thompson, In Place of War, Cockcroft Rutherford Lecture 2013, https://youtu.be/jUER_7C4MnU
  4. Mae Dominic Campbell, Cyd-sylfaenydd Creative Aging International wedi cynnig pedair swyddogaeth i’r celfyddydau wrth ymateb i’r pandemig – sef ehangu ar negeseuon iechyd, hybu cysylltiad, cydweithio ag arloesedd gwyddonol a dychmygu a modelu y math o drawsnewid dynol a chymdeithasol yr ydym yn eu herfyn. Bydd gwahanol bobl yn gallu cynnig yr ymatebion artistig y mae Dominic wedi’u hamlinellu ar raddfeydd gwahanol o gyflymder, drwy gyfrwng gwahanol fathau o ymarfer a gwahanol fathau o gymunedau. Mae yna enghreifftiau.
  5. Norma Daykin, Arts, Health and Well-Being: A Critical Perspective on Research, Policy and Practice (Abingdon: Routledge, 2020).