Bwriad ‘Llais y Lle’ yw cefnogi unigolion  creadigol i weithio gyda chymuned benodol er mwyn datblygu defnydd a pherchnogaeth y Gymraeg.

Mae'r gronfa ar gael i unigolion, neu griw o bobl, sy'n frwd dros yr Iaith a sydd â phrofiad o weithio'n greadigol gyda chymunedau gan ddefnyddio’r Gymraeg. Bydd gofyn i ymgeiswyr feddwl am gyflwyno prosiectau sy’n rhoi lle canolog i’r Gymraeg ac am weithio gyda’r gymuned.

Bydd y gronfa ar agor ar gyfer ceisiadau rhwng 11 Ionawr 2023 a 8 Chwefror 2023. Mae aelodau’r panel penderfynu yn medru’r Gymraeg ac mae Cyngor y Celfyddydau yn annog ymgeiswyr gyflwyno eu cais trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae manylion ymgeisio ar gael yma.

Bydd Ysgogydd y Gymraeg, Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnal sesiynau gwybodaeth ynglŷn â’r gronfa ar 16 Ionawr 2023 am 2yp a 6yh. Gellir cadw lle yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/489381592517

Gwnaed Llais y Lle yn bosib diolch i haelioni chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Mae’r gronfa wedi ei chynllunio gyda’r Consortiwm celf Cymraeg er mwyn cryfhau’r berthynas greadigol gymunedol Gymraeg. Ry’n ni’n annog ceisiadau wrth unigolion creadigol sy’n adnabod cymunedau-, eu hanghenion a’r cyfleoedd i dyfu’r Gymraeg gyda’i cydweithrediad. Mae llawer o waith creadigol eisioes yn digwydd yn ein cymunedau a llawer o unigolion fyddai ddim yn ystyried eu hunain yn artistiaid yn cynnal y gwaith hwnnw. Byddwn yn croesawi ceisiadau wrth yr unigolion creadigol yma yn ogystal ag artistiaid profiadol, Byddwn yn casglu, rhannu a dysgu gydol hyd y cynllun ac yn defnyddio’r wybodaeth I gynllunio’n bellach. Mae’n gyfle unigryw a chyffrous. Ewch amdani!

Einir Sion, Ysgogwr y Gymraeg, Cyngor Celfyddydau Cymru.