Mae’r podlediad poblogaidd, Yr Hen Iaith, yn dychwelyd hefo cyfres arbennig ar gyfer disgyblion lefel A!
Mae Yr Hen Iaith yn bodlediad poblogaidd am hanes llenyddiaeth Gymraeg wedi’i gyflwyno gan Jerry Hunter a Richard Wyn Jones. Mae dwy gyfres wedi’u cwblhau a 62 o benodau wedi’u rhyddhau dros ddwy flynedd, yn denu miloedd o ddilynwyr ac yn ennill British Podcast Award.
Rŵan, mae tîm Yr Hen Iaith wedi creu cyfres arbennig ar gyfer disgyblion lefel A, a hynny mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru! Mae’r gyfres hon yn mynd i’r afael â thestunau sydd ar y sylabws lefel A Cymraeg, ac yn gwneud hynny mewn modd hwyliog a difyr.
Mae ar gael yn gyntaf ar AM, ac mae hefyd ar gael ar YouTube ac apiau podlediad eraill. Mae nifer o’r penodau wedi’u ffilmio yn y Llyfrgell Genedlaethol, a chewch weld rhai o brif drysorau llenyddol Cymru wrth i ni egluro’u perthnasedd i’r cwrs lefel A.
Gwyliwch a gwrandewch ar y ddwy bennod gyntaf, yn trafod Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard a Martha, Jac a Sianco gan Caryl Lewis, ar AM nawr!