Dyddiad: dydd Iau 22ain Hydref 2020 o 1pm ymlaen

Mae DAC yn falch o fedru cyhoeddi bod Jo Verrent o Unlimited ar gael i siarad gyda tri grŵp bach o artistiaid o Gymru (uchafswm o 7 ym mhob grŵp) am hyd at 25 munud yr un er mwyn rhoi gwybodaeth ynghylch rown ariannu nesaf Unlimited.

Dyma gyfle i holi cwestiynau a chael sgwrs wyneb yn wyneb gydag Uwch Gynhyrchydd y rhaglenni. Mae gan Unlimited dros hanner miliwn o bunnau i’w ddosbarthu yn y rownd hon - ar gyfer prif gomisiynau, grantiau ymchwil a datblygu ac arian ar gyfer artistiaid sy’n dechrau dod i amlygrwydd.

Medrwch ddod i wybod rhagor yma:

 https://weareunlimited.org.uk/unlimited-launches-new-commissioning-round/

Gall artistiaid o Gymru wneud cais am unrhyw drywydd, yn cynnwys ymgeisio i unrhyw un o’n Partneriaid a nodir, sy’n cynnwys rhai sy’n gysylltiedig â cherddoriaeth, y celfyddydau gweledol, teithio gwledig, celfyddyd fyw, artistiaid Asiaidd a llawer llawer mwy.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 27 Hydref 2020 ond does dim angen llawer o wybodaeth gan mai mynegiant diddordeb sydd ei angen yn hytrach na cheisiadau llawn. Dim ond y syniadau (a’r artistiaid!) sy’n cyrraedd y rhestr fer fydd angen llenwi ffurflen cais llawn, a bydd pob person sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael awr o gefnogaeth oddi wrth dîm Unlimited er mwyn gwneud hynny.

Bydd y sesiynau ar Zoom am:

  1. 1pm -1.25pm – cefnogaeth gyda chapsiynau
  2. 1.30pm - 1.55pm
  3. 2.00pm - 2.25pm – Cefnogaeth BSL

Er mwyn archebu lle, anfonwch e-bost ar Ruth@dacymru.com yn nodi ei dewis o ran amser, ac unrhyw anghenion mynediad.