O 24 Gorffennaf hyd at 1 Medi, bydd Chapter yn cynnig rhaglen lawn o ffilmiau, pecynnau celf a chinio am ddim i blant, gan gynnal creadigrwydd Caerdydd dros yr haf.   

Mewn ymdrech i gefnogi teuluoedd lleol yn ystod yr haf, mae Chapter wrth eu boddau i gyhoeddi estyniad o’u rhaglen gwyliau ysgol: chwech wythnos o ginio am ddim ar gyfer pob plentyn o dan 18 oed, tair ffilm deuluol bob wythnos, a phecynnau celf am ddim i bawb.    

Bydd y rhaglen yn digwydd o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, gan ddechrau ar 24 Gorffennaf a gorffen ar 1 Medi. Caiff y cynnig rhad ac am ddim hwn ei ymestyn i sicrhau fod gan blant fynediad at giniawau blasus yn ystod yr haf, ac yn gallu mwynhau celf a ffilmiau o fewn eu milltir sgwâr.  

Meddai Hannah Firth, y Cyd-Gyfarwyddwr a’r Cyfarwyddwr Artistig, “Yn ystod y cyfnod anodd hwn, credwn ei fod yn hanfodol i ni gefnogi ein cymuned leol. Dechreuodd y project yma llynedd ac rydym wrth ein boddau i allu cynnig gweithgareddau a chinio drwy gydol yr haf. Wrth i’r argyfwng costau byw ddyfnhau, rydym eisiau sicrhau y gall pob plentyn a pherson ifanc gael mynediad at fwyd, celf a ffilm am ddim ar ein safle fel eu bod bob tro’n teimlo’n ddiogel a bod croeso iddyn nhw yma.”  

Ar y cyd â’r rhaglen o weithgareddau am ddim, mae nifer o ddigwyddiadau â thâl wedi eu rhaglenni ar gyfer cynulleidfaoedd bychan, gan sicrhau fod diwrnodau o hwyl o’ch blaenau yn Chapter drwy gydol y gwyliau.  

 

Cinio am ddim i Blant 

Bob Dydd Llun i Ddydd Gwener o 24 Gorffennaf hyd at 1 Medi. Bydd y cinio blasus hwn ar gael i bob plentyn o dan 18 oed, heb orfod ateb unrhyw gwestiwn na bodloni meini prawf. Gallwch eistedd a mwynhau cinio yn y Caffi Bar, neu fynd â’r cinio gyda chi. Bydd y cinio ar gael i’w gasglu ar y safle bob dydd o 12 y pnawn, a bydd opsiynau Figan a Llysieuol ar gael.  

 

Ffilmiau am Ddim i’r Teulu 

Bob Dydd Llun, Mercher a Sadwrn. Gall teuluoedd ddod ynghyd i fwynhau rhai o’r ffilmiau animeddiedig gorau. Mae’r rhestr o ffefrynnau yn cynnwys Wall-e (U), Ice Age (U), Cloudy With a Chance of Meatballs (U), The Lego Movie (U), Sonic The Hedgehog (PG), The Iron Giant (PG), Lyle Lyle Crocodile (PG), Inside Out (U), The Greatest Showman (PG), Roald Dahl's Matilda The Musical (PG), a The Princess Bride (PG). Bydd y dangosiadau yma’n digwydd yn Chapter, ac mae mynediad am ddim i bawb fydd yn mynychu. Bydd y tocynnau’n mynd ar werth ym mis Gorffennaf, gyda chyfran o docynnau ar gael ar y diwrnod. 

 

Pecynnau Celf Myfanwy MacLeod  

Er mwyn ennyn creadigrwydd a diddordeb cyw-artistiaid Caerdydd, mae Chapter wedi dwyn ysbrydoliaeth o The Botanist, arddangosfa’r artist o Ganada Myfanwy MacLeod, drwy rannu pecynnau celf am ddim i bawb eu mwynhau. Mae’r rhain yn cynnwys cwisiau, posau, lliwio mewn, ymarferion arlunio a rhagor, i helpu plant i archwilio eu talentau artistig yn ystod gwyliau’r haf.   

 

Rhaglen Sinema  

Yn ogystal â’r ffilmiau am ddim i’r teulu, mae Chapter yn curadu ystod o raglenni dogfen, arthouse, a ffilmiau mawr newydd drwy gydol y flwyddyn. Bydd chwedloniaeth ffilm Barbie (tbc) yn meddiannu’r sinema gyda rhediad llawn o 28 Gorffennaf hyd at 10 Awst, ynghyd â ffilm niwclear iasoer Christopher Nolan, Oppenheimer (PG), sy’n serennu Cillian Murphy, o 21 Gorffennaf hyd at 3 Awst. Bydd Spider Man: Across the Spider-Verse (PG) yn dod i Chapter ym mis Awst hefyd.  

 

Rhaglen Berfformio 

Ar gyfer cynulleidfaoedd bach a mawr fel ei gilydd, ymunwch â Brogs y Bogs, archarwyr y llyffantod sy’n gorfod datrys trosedd trafferthus a churo’r Cwac Tŷ Bach. Dyma sioe newydd, doniol, neidiol, ffrwydrol y cwmni theatr arobryn wedi’i arwain gan fenywod, Familia de la Noche, ar gyfer plant o bob oed, ymlaen ar 11 a 12 Awst.   

 

Chapter sy’n cyflwyno’r gweithgarwch hwn ac mae’n bosib drwy garedigrwydd y cyfraniadau ariannol unigol a misol hael sy’n cael eu gwneud gan y gymuned leol. I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i gyfrannu at Chapter, ewch i https://www.chapter.org/cy/cefnogwch-ni/cyfrannwch/