Yr wythnos hon, mae'r llwyfan yn perthyn i gerddorion pres a lleisiol ifanc gorau Cymru gan fod Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cychwyn ar eu teithiau haf 2025.
Yn ffres o berfformiadau buddugoliaethus Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn gynharach y mis hwn, mae'r sbotolau nawr ar y ddau ensemble ieuenctid eithriadol hyn, sy’n dod â'u hegni, eu sgiliau a’u hangerdd i leoliadau cyngerdd trwy Gymru.
Ymunwch â ni ar gyfer Haf Cerddoriaeth Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2025 - o synau cerddorfaol hudolus CGIC, i ddisgleirdeb offerynnau pres, a mawredd cerddoriaeth gorawl. Peidiwch â cholli eich cyfle i weld y genhedlaeth nesaf o ragoriaeth gerddorol Cymreig - archebwch eich tocynnau heddiw!
Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru – Taith Cyngherddau 2025
Mae Cyn-fyfyriwr BPCIC a Chyfarwyddwr Cerdd Band Pres Pencampwriaeth 2024 Flowers, Paul Holland, yn dychwelyd i arwain ei gyn-fand mewn rhaglen ddisglair yn llawn cerddoriaeth wych sy'n addo rhywbeth i bawb. Yn ymuno â Paul a BPCIC bydd yr offerynnydd taro ifanc disglair Jordan Ashman – enillydd Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC 2022.
- 21 Awst am 7.30pm – Neuadd William Aston, Wrecsam
- 22 Awst am 7.30pm – Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
- 23 Awst am 2pm – Glan-yr-afon, Casnewydd
Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru – Taith Cyngherddau 2025
Dewch i brofi pŵer lleisiau mewn harmoni mewn lleoliadau trawiadol. Dan gyfarwyddyd ysbrydoledig eu harweinydd Tim Rhys-Evans, bydd y côr rhagorol o ddoniau Cymreig yn cyflwyno perfformiad syfrdanol sy'n llawn angerdd, egni a rhagoriaeth gerddorol.
- 23 Awst am 7.30pm – Cadeirlan Llanelwy, Sir Ddinbych
- 24 Awst am 3pm– Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd (Mynediad am Ddim)
- 25 Awst am 3pm – Neuadd y Brangwyn, Abertawe
Mae tocynnau ar gyfer cyngherddau ein Haf o Gerddoriaeth 2025 bellach ar gael drwy ccic.org.uk/digwyddiadur