Gwnewch y ‘Pwythau Bychain’ ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni a thu hwnt. Dyma neges a galwad Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ac Academi Heddwch Cymru ar Ddydd ein Nawddsant wrth iddynt lansio prosiect ar y cyd gyda'r artist tecstiliau Bethan M. Hughes yn galw am Heddwch,  fydd yn atsain Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24 ac yn  symbol o’r dylanwad enfawr y gall menywod gael ar y byd wrth unio’u lleisiau.  

 

Fel rhan o’r prosiect, gwahoddir menywod heddiw i bwytho eu llofnod mewn cyfres o weithdai sy’n cael eu harwain gan Bethan M. Hughes, gyda’r darn terfynol yn cael ei arddangos yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ym mis Gorffennaf eleni.  

  

Wedi ei ysbrydoli gan Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru  1923-4,  pan arwyddodd bron i 400,000 o fenywod apêl yn galw am Heddwch a’i thywys i America i ymbilio ar fenywod y wlad honno i ddefnyddio eu dylanwad i annog llywodraeth UDA i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd, y nod yw cynhyrchu dehongliad creadigol o'r ddeiseb wreiddiol mewn pwyth, trwy gyfres o weithdai wyneb yn wyneb ac ar-lein, gyda'r gobaith o ysbrydoli merched o bob cwr o’r byd i ddefnyddio'u llais a’u creadigrwydd i alw am heddwch. 

  

Dywedodd Bethan M. Hughes, sy’n Artist Preswyl yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ar hyn o bryd; 

“Mae hanes y Ddeiseb wreiddiol, Deiseb Heddwch Menywod Cymru ganrif yn ôl yn wefreiddiol, ac fel artist tecstilau, cefais y syniad o ddechrau deiseb gelf sy’n rhoi cyfle i fenywod Cymru lofnodi eu henwau ar ffurf pwyth, o'r enw Edefyn Heddwch. Y nod yw casglu enwau newydd sydd yn galw am Heddwch heddiw,  gan hefyd greu darn o waith celf sylweddol a thrawiadol gyda’r gobaith o ysbrydoli a chreu cenhedlaeth newydd o weithredwyr Heddwch yng Nghymru heddiw. Mae fy niolch i brosiect 'Hawlio Heddwch' Academi Heddwch Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri am noddi’r prosiect ac i  Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru am ariannu’r gwaith yn rhyngwladol fel y gall menywod ar draws y byd bwytho eu henwau dros Heddwch yn y pendraw.“ 

Cafodd y ddeiseb wreiddiol - sy’n 7 milltir o hyd yn ôl y sôn - ei thywys i UDA mewn cist dderw gan Annie Hughes Griffiths, Mary Elis, Elined Prys a Gladys Thomas. Yno, fe’i cyflwynwyd i fenywod America gan y ddirprwyaeth. Ers 1923, roedd y ddeiseb wedi’i chadw yn sefydliad y Smithsonian yn Washington DC nes iddi ddychwelyd i Gymru fis Ebrill y llynedd. Yma, mae’n destun prosiect eang o dan ofal Academi Heddwch Cymru, sef ‘Hawlio Heddwch’ sy’n cydweithio â’r Llyfrgell Genedlaethol a nifer o sefydliadau a grwpiau i ledaenu’r hanes rhyfeddol. Bellach, mae Cyngor Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn falch o gefnogi’r prosiect drwy’r ymgyrch ‘Pwythau Bychain’ a fydd yn hyrwyddo llofnodi mewn pwythau yr alwad am Heddwch byd-eang. 

 

Dywedodd Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, asiantaeth fewnol Cyngor Celfyddydau Cymru  Eluned Haf:

“Wrth i ryfeloedd ffyrnig ledu ar draws Ewrop a’r Dwyrain Canol ac i’r Argyfwng Hinsawdd effeithio ar bob cwr o’r blaned, ma’n berthnasol iawn fod artistiaid a menywod o Gymru yn gweithredu dros Heddwch. Mae deiseb gelf newydd Bethan M. Hughes gyda’r Academi Heddwch, yn adleisio llofnodion y ddeiseb wreiddiol o 1924 ac yn ein hatgoffa o’r angen parhaus i weithredu dros heddwch. Mae creu celf ar y cyd fel yma yn weithred bwerus wrth godi ymwybyddiaeth yng Nghymru ac yn ryngwladol. Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn falch iawn o allu cefnogi y prosiect yma, sy’n ennyn diddordeb cynyddol yng nghymunedau Cymru a led led y byd wrth i’r darn o waith newydd yma alw am fyd heddychlon o’r newydd.”  

Dywedodd Mererid Hopwood, Cadeirydd  prosiect ‘Hawlio Heddwch’ ac Ysgrifennydd  Academi Heddwch: 

“Mewn dyddiau lle mae anferthedd problemau’r byd yn gallu peri inni deimlo’n ddiymadferth, mae’n dda iawn cofio y gallwn, bwyth wrth bwyth, drwsio pethau a chreu darlun newydd, gwell. Dyna pam mae Academi Heddwch yn arbennig o falch o fod yn cydweithio â Bethan Hughes a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru ar ymgyrch gobaith y ‘Pwythau Bychain’.” 

Mi fydd y gwaith terfynol a’r tapestri cyfan o’r holl llofnodion yn cael ei arddangos yng ngaleri Dory yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen eleni.