Mae Ffilm Cymru Wales wedi dewis Keefa Chan i greu ffilm ddogfen fer am sut mae murlun Siartwyr Casnewydd wedi ysbrydoli cymuned greadigol y ddinas. 

Mae’r gwaith cynhyrchu wedi dechrau ar Rebels and Renaissance, archwiliad sinematig o artistiaid Casnewydd a hanes dosbarth gweithiol gwrthryfel y siartwyr. Wedi’i chynhyrchu gan Rewired Life, bydd y ffilm yn dal hanfod cymuned eclectig ac amrywiol Casnewydd o bobl greadigol leol dalentog, ac yn mynd ati i ofyn beth yw cyfrifoldebau’r artistiaid, a pha mor werthfawr yw celf i bobl Casnewydd?

Cafodd Keefa ei ddewis ar ôl ymateb i alwad agored Ffilm Cymru Wales am wneuthurwr ffilmiau i greu gwaith sy’n dal ysbryd creadigol Casnewydd. 

Gan ffoi rhag gwrthdaro yn Fietnam a Chambodia, symudodd teulu Keefa i Gasnewydd yn y 1980au, a daeth cymuned leol Betws i fod yn gartref iddo ac yn ysbrydoliaeth i adrodd straeon. Ers hynny mae'r sinematograffydd a addysgodd ei hun wedi gweithio ar gynyrchiadau ffilm a theledu gan gynnwys Casualty, rhaglen ffuglen wyddonol The Machine, a ffilmiau byr i BBC Cymru Wales, S4C ac It's My Shout. Yn 2015, enillodd wobr BAFTA Cymru am y Ffotograffiaeth Ffeithiol Orau ar Fog of Sex. 

Dywed Keefa, “Wrth ddychwelyd i Gasnewydd yn 2008 ar ôl degawd yn niwydiant ffilmiau Llundain, fe wnes i ddod o hyd i ysbrydoliaeth mewn mannau annisgwyl, fel y sinema fach gyfrinachol boblogaidd sy’n cael ei rhedeg gan yr annwyl ‘Dai the Pie’. Roedd y sinema yn agos at galon llawer o artistiaid, cerddorion a gwneuthurwyr ffilmiau lleol a fyddai’n mynd yno’n fynych. Yno, fe wnes i ddarganfod cymuned greadigol fywiog a hyfryd a wnaeth ysgogi fy angerdd am adrodd straeon.”

Wrth drafod y weledigaeth greadigol ar gyfer ei ffilm newydd, medd Keefa, “O adleisiau brwydrau’r gorffennol i’r mynegiant presennol o wrthsafiad artistig, fe fyddwn ni’n datgelu sut mae artistiaid Casnewydd yn parhau i gael eu hysbrydoli gan hanes eu dinas o feddu ar farnau croes i’r sefydliad, gan drwytho eu gwaith mewn egni gwrthryfelgar sy'n herio'r sefyllfa sydd ohoni ac yn gwthio ffiniau. Trwy eu dirnadaeth, byddwn yn dod i ddeall yn well sut mae celf yn gweithredu fel cyfrwng ar gyfer sylwebaeth a thrawsnewid cymdeithasol, gan adleisio ysbryd gwrthryfelgar Casnewydd yn y gorffennol wrth ddilyn llwybr tuag at ddyfodol mwy cynhwysol a grymus.”

Gwyliwch y fideo hwn i edrych y tu ôl i'r llenni a darganfod mwy am weledigaeth greadigol Keefa.

Mae Ffilm Cymru Wales hefyd wedi recriwtio pump o bobl leol i gael lleoliadau hyfforddi â thâl ar set y ffilm fer. Yn ogystal â phrofiad ymarferol gwerthfawr o gynhyrchiad ffilm, gan gynnwys yn adrannau camera, sain a lleoliadau, treuliodd yr hyfforddeion ddiwrnod yn dysgu am rolau a chyfrifoldebau, iechyd a diogelwch, ac arferion ar y set. 

Bydd y ffilm orffenedig yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Sgiliau Ffilm Troed yn y Drws yn The Place yng Nghasnewydd yr hydref hwn. 

Caiff y prosiect hwn ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, gyda chyllid ychwanegol wedi’i wneud yn bosibl gyda chymorth Ffilm Cymru Wales a BFI NETWORK gyda chyllid gan y Loteri Genedlaethol.