Ddiwedd mis Medi eleni, fe gynhaliwyd GWLAD: Gŵyl Cymru’r Dyfodol, gŵyl ddemocratiaeth gyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel rhan o ddathliadau 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru yn y Senedd ym Mae Caerdydd gyda’r nod o ysgogi sgwrs ac ysbrydoli pobl o bob oed a chefndir i wrando, ymgysylltu a thrafod.
Yn ystod mis Tachwedd bydd GWLAD yn mynd ar daith i GAERNARFON, WRECSAM a CHAERFYRDDIN er mwyn parhau gyda’r sgwrs a’r drafodaeth gyda phobl Cymru.
Fel rhan o’r digwyddiadau undydd bydd Diwrnod Hwyl a Sbri i’r teulu a sgwrs banel ‘Sgwrs ar gyfer Cymru’r Dyfodol’ lle byddwn yn dod â phanel o westeion o fyd gwleidyddiaeth, busnes a'r cyfryngau ynghyd i ateb cwestiynau'r cyhoedd ar faterion amserol sydd yn effeithio ar bobl sy’n byw yma yng Nghymru.
Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiadau yng Nghaernarfon, Wrecsam a Chaerfyrddin, sy’n rhad ac am ddim, ar wefan GWLAD drwy glicio yma.