Mae Queertawe yn brosiect pontio'r cenedlaethau ar gyfer pobl LGBTQIA+ yn Abertawe, gyda chreadigrwydd wrth wraidd hynny. Byddwn yn creu mannau diogel, cwiar a sobr drwy gydol 2024 i bobl fynychu amrywiaeth o weithdai creadigol AM DDIM.

Y nod yw dod at ein gilydd fel cymuned, dathlu ein hunaniaethau, parchu ein gwahaniaethau, dysgu o brofiadau ein gilydd a mwynhau'r celfyddydau!

Bob noswaith dydd Llun rhwng Ionawr a Mehefin 2024 bydd gweithdai creadigol ym maes Ysgrifennu, Perfformiad Cabaret, Symud a'r Celfyddydau Gweledol mewn lleoliadau ar draws Abertawe. Ymunwch â ni ar y daith hon tuag at wneud ffrwydrad creadigol queer ar strydoedd Abertawe ym mis Rhagfyr 2024.

Cofrestrwch i unrhyw un o'r gweithdai drwy'r ddolen.

Rhaid i chi fod yn 16+ oed i gymryd rhan yn y prosiect hwn.

Rydym wedi ymrwymo i wneud ein gweithdai mor hygyrch â phosibl. Mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod unrhyw anghenion hygyrchedd sydd gennych fel y gallwn sicrhau y gallwch ymuno â ni yn rhwydd.

T: 01792824484
E: queertawe@messupthemess.co.uk

Dyddiad cau: 24/06/2024