Gwasg y Mis AM fis yma yw’r cyhoeddwyr ac argraffwyr Y Lolfa, sydd wedi bod yn cyhoeddi llyfrau yng Nghymru ers dros hanner canrif.
Mae Gwasg y Mis yn gyfle i gefnogi gweisg gwahanol Cymru drwy rannu cynnwys gwahanol ar ein tudalen flaen pob mis. Mae’r nodwedd yn cynnig blas o nifer o gyhoeddiadau gwahanol Y Lolfa, drwy rannu lansiadau digidol, cipolwg ar gynnwys, cyfweliadau a mwy. Ewch i ddysgu mwy am waith gan Megan Angharad Hunter, Casia Wiliam, Llwyd Owen a llwyth o awduron cyffrous eraill!
Mae yna hefyd adran siop, sydd yn hyrwyddo’r llyfrau diweddaraf i’w cyhoeddi drwy Y Lolfa, yn ogystal â chyhoeddiadau cyffrous i ddod, felly ewch i bori drwy’r holl deitlau gwahanol a chefnogi eich hoff awduron nawr!
Meddai Sioned Erin Hughes, Swyddog Marchnata Y Lolfa: “Mae’r datblygiad yma gan AM yn eithriadol o gyffrous i ni fel gwasg, ac rydyn ni wir yn ffyddiog, gyda’r strategaeth farchnata finiog hon, y bydd ein llyfrau’n cyrraedd cynulleidfa newydd, ehangach. Rydyn ni’n ddiolchgar dros ben o gael bod yn rhan o’r cwbl”
Mwynhewch Gwasg y Mis Y Lolfa ar dudalen flaen AM nawr!