Ffocws Groundswell yw’r syniad bod “arferion lleol yn arwain at newid byd-eang”, a bydd ein rhaglen o gyflwyniadau, trafodaethau panel a gweithdai’n edrych ar arferion ymgysylltu radical, hyper-leol a chymunedol. 

 

Anelir y digwyddiad at bobl ar bob cam o’u gyrfa ym maes ymgysylltu â’r celfyddydau gweledol. Byddwn yn edrych ar lwyddiannau a heriau mynd i’r afael ag anghydraddoldebau systemig a phroblemau byd-eang, megis newid yn yr hinsawdd a gweithredu oddi mewn a’r tu hwnt i agendâu llywodraethau a chyllido. 

Gallwch ddod i’r digwyddiad yn Market Hall, Duke Street, Devonport, PL1 4PS.  

Cyhoeddir manylion llawn y rhaglen ym mis Mawrth ar ein gwefan

 

Rhagor o wybodaeth 

Mae bwrsariaethau ar gael i unigolion neu sefydliadau o Gymru, Lloegr a’r Alban sy’n dymuno teithio i’r digwyddiad – dylai unrhyw un sydd â diddordeb wneud cais ar y ffurflen gais cyn 29 Mawrth 2024 wneud cais ar y ffurflen gais cyn 29 Mawrth 2024.  

Ceir rhagor o wybodaeth am Groundswell ar ein gwefan.  

Cefnogir Engage gan Arts Council England, Cyngor Celfyddydau Cymru a Creative Scotland.