Wythnos yma, cyhoeddodd Gorwelion, y brif raglen gerddoriaeth ar gyfer arddangos cerddoriaeth newydd o Gymru, rownd newydd o Gyllid Lansio. Bydd cronfa ar y cyd gwerth £60,000 ar gael i artistiaid a labeli recordio annibynnol o Gymru.

Mae dros 331 o artistiaid wedi cael bron i £500,000 yn uniongyrchol o'r grantiau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, ers ei sefydlu yn 2014.

Mae'r Gronfa Lansio yn adnodd sy'n helpu artistiaid neu fandiau talentog yng Nghymru i ddatblygu eu gyrfa ym myd cerddoriaeth drwy roi mynediad hanfodol iddynt at gyllid. Mae'n cefnogi'r ecosystem o greu cerddoriaeth yng Nghymru wrth i'r cyllid gyfrannu at amser recordio, teithio, marchnata, gwaith celf neu brosiectau eraill sy'n helpu artist i gymryd y cam nesaf gyda'i gerddoriaeth.

Rydyn ni'n falch o fod yn darparu cyllid i Gronfa Lansio Gorwelion wrth iddi symud i'w ail ddegawd. Mae gennym gymaint o dalent cerddorol yng Nghymru, ac mae hon yn fenter sy'n amlwg yn rhoi hwb ychwanegol i gynifer o bobl, o ran arddangos y doniau creadigol sydd gennym yng Nghymru a chynnig cymorth ymarferol. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod artistiaid o Gymru yn cael llwyfan ac yn cael eu gweld gan y bobl iawn. Felly cofiwch wneud cais!

Catryn Ramasut, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Nghyngor Celfyddydau Cymru

Mae cyllid Lansio wedi cefnogi llawer o artistiaid, gan gynnwys: Adwaith, Aleighcia Scott, Minas, Melin Melyn, CHROMA, Mellt, Greta Isaac, Eadyth, L E M F R E C K, Afro Cluster, Gwilym, HIMALAYAS, Mace the Great, Local a sawl un arall.

Mae cyllid Lansio, fel y mae’r enw yn ei awgrymu, ar gyfer y rheini sy'n dechrau ar eu taith gerddorol, ar adeg hollbwysig yn eu datblygiad. Ei ddiben yw helpu i gefnogi gweithgareddau a fydd yn helpu cerddorion i gyflawni eu potensial. Rydyn ni'n chwilio am artistiaid/bandiau sy'n gallu dangos diddordeb gan gynulleidfaoedd a'r rheini sy'n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth (fel labeli neu adolygwyr) ond sydd angen cymorth i'w galluogi i gynnal gweithgaredd a fydd yn cyrraedd mwy o bobl.

CROESEWIR CEISIADAU O DDYDD LLUN 29 MEDI 2025 YMLAEN

RHAID CYFLWYNO CEISIADAU ERBYN DYDD LLUN 27 HYDREF 2025

Yn gynharach eleni, dyfarnwyd cyllid Lansio i 34 o artistiaid o bob cwr o Gymru - gan gynnwys Bau Cat, Ben Ellis, Bruna Garcia, Buddug, Cyn Cwsg, Jessika Kay, Klust (Label Recordio), Llinos Emanuel, Nancy Williams a Talulah.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am @horizonscymru ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae'r ffurflen gais a'r telerau ac amodau ar gael yn www.bbc.co.uk/horizons