Rydym yn edrych ar gyfer dau eginyn curadur cwiar o Gymru i gymryd rhan yn ein prosiect 'Creu Cymru Cwiar, Cysylltu pobl'.

Mae Cymru'n adref i amrywiaeth o bobl cwiar. Ar gyfer y prosiect hwn, mae On Your Face eisiau creu gofod i lwyfannu ar y bywydau, straeon a lleisiau sydd yn arferol yn cael eu hesgeuluso, i arddangos yr amrywiaeth a chroestoriad o hunaniaethau o fewn y gymuned LHDTC+ Cymru.

Fydd y ddau guradur yn gweithio'n agos efo'r 10 artistiaid o'r prosiect i adeiladu ein harddangosfa sy'n digwydd flwyddyn nesaf. 

Cyfrifoldebau'r curaduron: 
Dod i'w gilydd efo'r artistiaid i drafod canlyniadau arddangosfa a chynlluniau dros y misoedd
Goruchwylio’r cynllunio a datblygiad yr arddangosfa
Cynorthwyo efo hyrwyddo gan greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol deniadol sy'n dogfennu'r prosiect curadurol. O'r camau cynnar i'r gosodiad oriel.
Mynychu sesiynau cynllunio efo'r artistiaid ac On Your Face. 

Dyddiadau i'r prosiect: Medi 2024 i Chwefror 2025
Agoriad arddangosfa 7fed o Chwefror 2025
Ffi: £1200 (8 diwrnod)
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mawrth 16eg o Orffennaf 5yp

 

 

 

Dyddiad cau: 16/07/2024