Ar ôl egwyl fer, bydd The Shape of Things to Come yn dychwelyd gyda bil dwbl o 13 - 15 Mehefin.

Mae The Shape of Things to Come yn rhaglen o berfformiadau byr gwreiddiol newydd sbon a gomisiynwyd gan Volcano gan wneuthurwyr theatr a pherfformwyr llawrydd yng Nghymru a thu hwnt. Mae pob un o'r perfformiadau tua 30 munud o hyd. Y peth sy’n cysylltu’r gweithiau amrywiol hyn yw eu bod i gyd yn edrych tua’r dyfodol – gan ddychmygu posibiliadau newydd ac archwilio ffyrdd eraill o fod.

Yn dod nesaf!

Perfformiad trwy gyfrwng y Gymraeg yw NYTHU, gyda dawnsio disgo, a ysbrydolwyd gan brofiad Elin Phillips fel mam newydd a phrif ofalwr. Sut allwch chi feddwl am y dyfodol pan fo diffyg cwsg yn eich amddifadu o’r pŵer i siarad/meddwl ac yn eich troi’n rhyw gysgod dieithr o’r hyn oeddech chi, yn prowlan y landin?

SANC gan Akeim Toussaint Buck a Yamina Lyara yn ddefnyddio symudiadau a’r llais i fynegi anghenion y ddynoliaeth ar adegau enbyd o ymosodiadau ar ein gwir ryddid. Dychwelyd y bod dynol cosmopolitan i’w wreiddiau, ymgolli ein hunain ym myd natur i’n hiachau, a chael ffynnu o’r newydd. Bydd Akeim a Yamina yn cynnig gweithdy ar gyfer artistiaid sy’n gweithio gyda byd natur a’r corff, ar ddydd Mawrth, 11 o Fehefin.

Diolch i’r pedwar artist sydd wedi creu gwaith newydd ar gyfer y tymor hyd yn hyn – Catherine Alexander, Eric Ngalle Charles, Christopher Elson a Luke Hereford, ac i Marianne Tuckman a myfyrwyr BTEC yn Rubicon Dance am fod mor garedig â rhannu eu darn newydd gyda ni fel prolog i'r rhaglen. Mae Volcano yn falch iawn o allu cyflwyno gwaith mor amrywiol ac anturus gan artistiaid newydd a sefydledig o Gymru a thu hwnt o fewn ychydig wythnosau.