CYFLEOEDD I WEITHWYR LLAWRYDD
Cwrs Preswyl Nant Gwrtheyrn
Ydych chi yn siaradwr newydd ar lefel Canolradd neu uwch? Ydych chi eisiau dysgu a rhannu technegau creadigol o roi’r Gymraeg ar waith? Yna bydd y cwrs preswyl rhwng Mawrth yr 11eg a’r 15ed o ddiddordeb i chi.
Yn ystod yr wythnos bydd tiwtor o Nant Gwrtheyrn ac aelodau o Gonsortiwm celf Cymraeg yn Cyngor Celfyddydau yn cydweithio i greu profiad unigryw i chi. Cewch wythnos o ddosbarthiadau dysgu arbennig y Nant yn ogystal a sesiynau dysgu technegau Synhwyro’r Iaith https://arts.wales/cy/adnoddau/synhwyror-iaith er mwyn eich arfogi i roi’r Gymraeg yng nghanol eich creadigrwydd.
Mae'r cwrs am ddim a byddwn hefyd yn talu am eich amser a’ch costau yn ystod eich cyfnod yn Nant Gwrtheyrn.
Mae’n rhaid nodi eich diddordeb cyn diwedd mis Ionawr trwy gysylltu â Einir.Sion@celf.cymru
CYFLEOEDD I UNIGOLION A SEFYDLIADAU CELFYDDYDOL YNG NGHYMRU
Cyrsiau Cymraeg wythnosol (dros Zoom / Teams)
Mae dosbarthiadau wythnosol ar bob lefel yn rhedeg ar hyn o bryd. Cyrsiau patrwm dysgu traddodiadol yw'r rhain sy'n cael eu cynnig gan diwtor am 2 awr yr wythnos yn ystod oriau gwaith arferol (9-5). Mae cwrs Mynediad newydd ar fin dechrau.
Bob prynhawn Iau
14:00 tan 16:00
30 wythnos (dim gwersi yn ystod gwyliau ysgol)
dechrau 22/2/24
Cofrestrwch yma:
https://learnwelsh.cymru/learning/course/e6df4e96-d6b6-ee11-bea1-c995adc4d9ae/
Hunan astudio
Coleg Cambria sy’n darparu cyrsiau wythnosol a chefnogaeth hunan astudio ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae modd dechrau hunan astudio ar lein gydol y flwyddyn.
Mae hunan astudio yn gyfle gwych i ddysgu ar eich cyflymder eich hun, heb unrhyw bwysau, o gysur eich cartref neu swyddfa.
Os ydych yn ystyried dechrau ar eich siwrnai dysgu Cymraeg neu am ail gydio ynddi, porwch wefan y Ganolfan Dysgu Cymraeg https://learnwelsh.cymru/.
Mae croeso i chi gysylltu â Einir.Sion@celf.cymru am fwy o wybodaeth.