Wedi’i rhedeg gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae’r rhaglen wedi cefnogi ysgolion i ddatblygu dulliau newydd o ddylunio’r cwricwlwm, wedi cefnogi athrawon i archwilio dulliau dysgu arloesol ac wedi cefnogi dysgwyr i wireddu eu llawn botensial.

Ers ei gychwyn yn 2015, mae 1,397 o ysgolion wedi ymgysylltu â’r rhaglen, gan greu dros 370,000 o gyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu creadigol, yn amrywio o ymweld â lleoliadau celfyddydol a diwylliannol i dderbyn profiadau pwrpasol drwy gydweithio ag ymarferwyr creadigol, trwy ddull ymholiad, ar lawr y dosbarth.

Yn ogystal â chefnogi athrawon i ddatblygu dulliau dysgu creadigol, mae’r degawd diwethaf wedi llwyddo i greu bwrlwm o fewn sector y celfyddydau yma yng Nghymru, gan greu cyfleoedd gwaith i bron i 4,000 o weithwyr creadigol proffesiynol.

 

“Mae wedi bod yn wych gweld sut mae cymaint o’n pobl ifanc yng Nghymru wedi datblygu a ffynnu ar eu taith ddysgu o ganlyniad i ymgysylltu â’r cyfleoedd a gynigir iddynt fel rhan o Ddysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau. Mae cyflawniadau’r rhaglen wedi bod yn rhyfeddol – mae’r effaith wedi bod yn drawsnewidiol nid yn unig i ddysgwyr, ond i athrawon, ysgolion ac artistiaid. Mae ein partneriaeth â Llywodraeth Cymru wedi ein cefnogi i adlewyrchu ac ymateb i anghenion newidiol ein hysgolion, gan sicrhau bod creadigrwydd a phrofiadau sy’n gyfoethog yn y celfyddydau yn rhan annatod o gyfleoedd dysgu ledled Cymru.”

Diane Hebb, Cyfarwyddwr, Ymgysylltu â'r Celfyddydau