Heddiw, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cyhoeddi rhaglen Gŵyl Cymru; gŵyl gelfyddydol 10 diwrnod* fydd yn digwydd wrth i’r genedl gefnogi Cymru yn ystod eu hymgyrch Cwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar.

Bydd yr ŵyl yn dechrau ar 19 Tachwedd, a bydd bron pob digwyddiad yn rhad ac am ddim.

Bydd uchafbwyntiau’r ŵyl yn cynnwys:

  • Footballroom; sioe ddawns/theatr yn archwilio pêl-droed a hawliau LHDTC+, wedi’i chynhyrchu gan August 012
  • Gigs comedi byw ar draws Cymru a Llundain, gyda digrifwyr o wledydd eraill yng Nghwpan y Byd yn ogystal â rhai o Gymru yn cynnwys Kiri Pritchard-McLean a Mike Bubbins
  • Theatr Genedlaethol Cymru yn cydweithio â thafarn Cwrw yng Nghaerfyrddin i gyflwyno gwaith gan eu Clybiau Drama wedi’u hysbrydoli gan Gwpan y Byd
  • Tafarn gymunedol Yr Heliwr yn cynnal cwis am Gwpanau’r Byd y gorffennol
  • Cerddoriaeth byw gan Sage Todz a Juice Menace (yng Nghaerdydd), Gwilym a’r Cledrau (yn Nolgellau), Lemfreck, Mace the Great a Teddy Hunter (yn Efrog Newydd) a’r band pres 11-offeryn The Barry Horns (yn Dubai)
  • Digwyddiadau llenyddol, nosweithiau barddoniaeth Bragdy'r Beirdd a sgyrsiau panel, gyda Wal yr Enfys, y bardd Rhys Iorwerth a Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa
  • Digwyddiad wedi’i gynnal gan Gymdeithas Gymraeg Syria i nodi a dathlu cefnogaeth ffoaduriaid o Gymru
  • Gweithgareddau wedi’u curadu gan rai o sefydliadau celfyddydol mwyaf a mwyaf adnabyddus Cymru, yn cynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, National Theatre Wales, Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth, Tŷ Pawb a Chanolfan Gelfyddydau Chapter
  • Gwledd o weithgareddau i blant, yn cynnwys gweithdai gwneud crysau-t a chyfnewidiadau sticeri

Nod Gŵyl Cymru yw uno ac amlygu'r cyfoeth o gelf, cerddoriaeth a digwyddiadau sy'n cael eu creu ar gyfer ymgyrch hanesyddol Cymru yng Nghwpan y Byd a chyflwyno cynulleidfaoedd newydd i'r celfyddydau, iaith a diwylliant Cymreig – ac felly i sicrhau gwaddol diwylliannol i Gwpan y Byd FIFA 2022, gan y wlad leiaf i ennill ei lle.

Mae cefnogi lleoliadau annibynnol ar lawr gwlad yn ganolog i’r ŵyl; dyna pam mae lleoliadau’r ŵyl yn cynnwys sefydliadau cymunedol, clybiau pêl-droed, ysgolion, tafarnau cymunedol a neuaddau coffa. Mi fydd llawer o ddigwyddiadau’r ŵyl yn digwydd ochr yn ochr â dangosiadau gemau calendr Cymru yn ystod y twrnamaint, ac mi fydd sawl digwyddiad ar-lein hefyd, felly gellir mwyhau’r ŵyl o gysur eich cartref.

Mae rhaglen lawn yr ŵyl nawr yn fyw yma: gwyl.cymru/cy.

Cafodd Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa, ei chomisiynu gan GBC a Llenyddiaeth Cymru i ysgrifennu The Crowd Gathers; cerdd swyddogol Gŵyl Cymru. Cafodd ei chyfieithu i’r Gymraeg o dan y teitl Mae'r Dorf yn Ymgynnull, gan Grug Muse. Mae Hanan Issa a Grug Muse yn ymddangos yn fideo^ swyddogol y gerdd, yn adrodd llinellau o’r gerdd yn Saesneg, Cymraeg ac Arabeg, gyda cherddoriaeth gan yr artist Cymraeg, Sage Todz.

Cefnogir Gŵyl Cymru gan Gronfa Cefnogi Partneriaid Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru.

Meddai Cynhyrchydd Celfyddydau Cwpan y Byd, Nick Davies, “Mae hon yn foment arbennig i bêl-droed yng Nghymru – a hefyd i ddiwylliant Cymru. Mae’r byd yn gwylio felly ry ni isie creu a hyrwyddo digwyddiadau sy’n cynrychioli Cymru ar ei gorau oll – rhaglen gynhwysol, ddathliadol a hwyl, y gall pobl o bob un o’n cymunedau gymryd rhan ynddi.”

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, “Wrth i’r cyffro gynyddu cyn Cwpan y Byd cyntaf Cymru ers 64 mlynedd, mi fydd Gŵyl Cymru yn ein helpu i ddathlu ein diwylliant a’n treftadaeth ryfeddol, adref a thramor, ac yn ein galluogi i gefnogi’r tîm.
“Gyda gwledd o ddigwyddiadau rhad ac am ddim yn digwydd dros y byd, mi fydd yr ŵyl yn ein helpu i hybu Cymru ledled y byd ac ymestyn ein gwerthoedd o gynwysoldeb ac amrywiaeth.
“Er taw ni yw’r wlad leiaf i ennill ein lle, mae gennym uchelgeisiau mawr a golud doniau a hanes. Rydw i wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi beth sy’n addo bod yn ddathliad wirioneddol unigryw o bêl-droed, gwerthoedd a bywyd y Cymry”.

Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru: “Dyma ddigwyddiad gwirioneddol anhygoel; gŵyl sydd nid yn unig yn dathlu camp ein pêl-droedwyr ond hefyd yn ddathliad o’r celfyddydau ac amrywiaeth gyfoethog ein cymunedau. Heb os, mae ‘na rywbeth i bawb yng Ngŵyl Cymru, ym mhob cwr o’n gwlad - a thu hwnt!”

Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney: “Mewn jyst ychydig ddyddiau mi fydd Cymru yn weladwy ar lwyfan y byd fel na fuon ni erioed or blaen! Mae’n ffantastig i weld y cefnogaeth y caiff Cymru yn ystod y twrnamaint a sut gwnaiff ddigwyddiadau a lleoliadau rhyfeddol Gŵyl Cymru ddangos a dathlu ein diwylliant, ein celfyddydau, ein lleoliadau a’n cefnogwyr anhygoel dros Gymru a’r byd.
“Gyda diolch i Lywodraeth Cymru am gefnogaeth ariannol, mae ein huchelgais y bydd Gŵyl Cymru yn cyflwyno cynulleidfaoedd newydd ac aelodau’r Wal Goch i elfennau o gelf a chelfyddydau Cymreig na fyddent wedi dod ar eu traws o’r blaen yn dod yn wir heb os! Rwy’n edrych mlaen at glywed pa ddigwyddiadau yn y rhaglen fydd cefnogwyr Cymru yn mynychu.”

DIWEDD          4 Tachwedd 2022