Mae storïwyr o Gymru – gan gynnwys Euros Lewis – ac o Israel, UDA, yr Iseldiroedd, Iran yn ymgynnull yng Nghanolfan Waunifor Caonolfan (cartref yr Arddangosfa Gelf Diwedd yr Haf flynyddol) i rannu eu profiadau ac i adrodd a pherfformio straeon o llawer o ddiwylliannau a thraddodiadau.

Hwylusir y gweithdai gan storïwyr profiadol ac mae’r pynciau’n cynnwys y grefft o adrodd straeon, sut i droi arsylwi a phrofiad personol yn straeon sy’n symud cynulleidfa, chwedlau sy’n atgofio’r byd naturiol, sut i lunio stori eich bywyd eich hun a ffyrdd o ddatblygu eich dychymyg. Bydd y perfformiadau yn cynnwys amrywiaeth o arddulliau adrodd straeon, gan gynnwys straeon traddodiadol ac epig a straeon o'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Bydd hefyd sesiynau meic agored a pherfformiadau cerddoriaeth.

Mae’r digwyddiad yn addas i bob oed a chost tocyn diwrnod llawn (gan gynnwys perfformiad gyda’r nos) yw £25. Mae gweithdy unigol neu berfformiad gyda’r nos yn £10 yr un a thocyn penwythnos tridiau yn £60.

Ar gyfer rhaglen lawn yr Ŵyl, manylion bywgraffyddol a gwybodaeth am docynnau