Mae Mis Treftadaeth De Asia yn digwydd bob blwyddyn rhwng 18 Gorffennaf a 17 Awst, ac mae’n disgyn ar ben-blwydd Rhaniad India. Mae’n cofio, yn anrhydeddu ac yn dathlu hanes a diwylliant De Asia, yn ogystal â diwylliannau a gwaddol unigryw gwledydd De Asia. Thema eleni yw ‘Adrodd Straeon’ ac rydyn ni’n dod ag awduron at ei gilydd i dynnu sylw at bŵer adrodd straeon yng nghyswllt hanesion De Asia ddoe a heddiw ac i’r dyfodol.
Dewch draw i Ganolfan Gelfyddydau Chapter ar Dydd Sadwrn 12 Awst 2023 i ddathlu Mis Treftadaeth De Asia 2023 gyda ni, mewn digwyddiad arbennig a fydd yn cynnwys chwech o awduron ac artistiaid geiriau o gymuned De Asia. Dyma’r awduron: Durre Shahwar, Nasia Sarwar-Skuse, Taz Rahman, Hammad Rind, Vidhi Chaudhary a Rha Arayal. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan Durre Shahwar a Jafar Iqbal, ac yn cynnwys y cyhoeddwr Lucent Dreaming. Bydd aelodau De Asiaidd y gynulleidfa hefyd yn cael eu gwahodd i rannu gwaith, hanesion a beth bynnag fyddan nhw’n teimlo’n gyfforddus yn ei rannu ar y diwrnod.
Dyma fydd dechrau rhywbeth mwy i nodi diwylliant De Asia yng Nghymru, a bydden ni’n falch iawn petai modd i chi fod yno ar ddechrau’r daith.