Mae’r Loteri Genedlaethol yn dathlu ei Ben-blwydd yn 25 mlwydd oed heddiw ac mae elusennau a grwpiau cymunedol led led Cymru yn nodi effaith anhygoel y £1.75 biliwn a wobrwywyd i fwy na 50,000 o achosion da yng Nghymru dros y chwarter canrif diwethaf.
Cafodd y Loteri Genedlaethol ei dynnu gyntaf ar 19 Tachwedd 1994 ac mae’r Pen-blwydd 25 Mlynedd yn foment i ddathlu’r effaith anhygoel mae’r Loteri Genedlaethol wedi’i gael ar achosion da – bach a mawr – yng Nghymru ym meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth a chymuned.
Boed os yw’n arian ar gyfer prosiectau a thirnodau eiconig mawr; prosiectau cymunedol bychain sy’n gwneud gwahaniaeth mawr; cynhyrchu’r ffilmiau mwyaf anhygoel; neu gefnogi clybiau chwaraeon ar lawr gwlad – mae’r diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi mwy na £6.4 miliwn pob mis ar gyfer achosion da yng Nghymru, fod prosiectau gwych sy’n cefnogi ein cymunedau ac yn gwneud cyfraniad hanfodol a gynhelir tuag at ein bywyd cenedlaethol yn bosibl.
Fel rhan o’r dathliadau heddiw, bydd map unigryw o Gymru sy’n cynnwys 14 o’r tirnodau mwyaf eiconig a ariannwyd dros y 25 mlynedd diwethaf yn cael ei ddadorchuddio. Bydd y map, a grëwyd gan yr arlunydd Cymreig, Hannah Davies, yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, sef un o’r lleoliadau eiconig sy’n cael sylw, o Dachwedd 19 – 25ain. Ni fyddai cartref y celfyddydau perfformio yng Nghymru, a agorwyd yn 2004, yn bodoli heb y £31.7 miliwn a fuddsoddwyd oddi wrth y Loteri Genedlaethol.
Mae prosiectau nodedig eraill sy’n rhan o’r map yn cynnwys:
- Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Sir Gaerfyrddin a dderbyniodd £26 miliwn i adeiladu canolfan gadwraeth ac atyniad i ymwelwyr yn Llanarthne;
- Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yng Nghasnewydd y gwobrwywyd £7.5 miliwn i’w adeiladu;
- Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru yng Ngwynedd a dderbyniodd £4.2 miliwn i ailadeiladu ac ailagor yr hyn sy’n rheilffordd treftadaeth hiraf y DU erbyn hyn;
- Hyb diwylliannol, perfformio ac adnodd cymunedol Tŷ Pawb yn Wrecsam a wariodd £2.5 miliwn ar anadlu bywyd newydd i hen adeilad marchnad dan do oedd yn cael ei danddefnyddio; a
- Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth a dderbyniodd ddyfarniad o £2.5 miliwn fel rhan o waith ailddatblygu arwyddocaol.
Y grant unigol mwyaf a wobrwywyd i brosiect yng Nghymru oedd £46.4 miliwn tuag at adeiladu Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd, a agorodd yn 1999 i gynnal Cwpan Rygbi’r Byd. Y grant lleiaf yw grant o £17 i Glwb Bowlio Brenhinol Rhymni yn 2007. Un o’r grantiau cyntaf a ddosbarthwyd yng Nghymru oedd grant o £37,500 ym mis Mawrth 1995 i helpu adeiladu neuadd ymarfer newydd ar gyfer Band Tref Pontarddulais. Wedi’i ffurfio ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan weithwyr yn y diwydiannau tun, dur a glo, mae Band Tref Pontarddulais yn un o’r bandiau pres mwyaf llwyddiannus a dynamig ym Mhrydain ac yn perfformio’n rheolaidd led led y DU, tra’n parhau wedi gwreiddio yn y gymuned trwy chwarae rhan o bwys mewn digwyddiadau lleol.
Yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, mae mwy na £166 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol wedi cael ei fuddsoddi mewn 17,300 o brosiectau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru – gan greu cyfleoedd i bawb fod yn heini a gwella eu bywydau trwy chwaraeon. Mae’r Loteri Genedlaethol hefyd wedi helpu i ddatblygu rhai o athletwyr Olympaidd a Phara Olympaidd mwyaf llwyddiannus Cymru er mwyn iddynt ffynnu a chyflawni statws chwedlonol. Mae’r rheini o Gymru sydd wedi elwa o Raglen Safon Fyd-eang a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn cynnwys:
- Y Farwnes Tanni Grey-Thompson un o athletwyr mwyaf llwyddiannus Prydain Fawr;
- Aled Siôn Davies – Chwech Gwaith yn Bencampwr Byd ac Enillydd Medal Aur Para Olympaidd dwbl o Benybont;
- Jade Jones – Pencampwr Taekwondo Olympaidd dwbl Cymru a Phencampwr y Byd o Sir y Fflint; a
- Geraint Thomas – enillydd Tour de France a Phencampwr Seiclo Olympaidd dwbl o Gaerdydd.
Mae 70% o holl grantiau’r Loteri Genedlaethol, fodd bynnag, wedi bod ar gyfer symiau bychain gwerth hyd at £10,000, gan fod o fudd i gymunedau ymhell ac agos. Mae’ rhain yn cynnwys:
- £10,000 i Stiwdios Recordio Cerddoriaeth Vic yn Wrecsam fel y gall y fenter gymdeithasol gynnal gweithdai cerddoriaeth i bobl ifanc;
- £9,100 i Cymru Creations ar gyfer prosiect ‘Tredegar in the Trenches – A Welsh Town at War’ yn 2017; ac
- £1,500 ar gyfer Clwb Pêl-rwyd Llangefni ar Ynys Môn i uwchsgilio hyfforddwyr a chynyddu offer.
Gan amlygu effaith y Loteri Genedlaethol yng Nghymru dros y 25 mlynedd diwethaf, dywedodd Nick Capaldi, Cadeirydd Fforwm Cymru y Loteri Genedlaethol a Phrif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: “Am 25 mlynedd, mae’r Loteri Genedlaethol wedi bod yn creu posibiliadau ac yn ein gwneud yn falch o’n cymunedau tra’n diogelu’r pethau yr ydym fwyaf angerddol yn eu cylch yng Nghymru. Heb yr arian, ni fyddai nifer o’n hoff dirnodau mwyaf eiconig ddim yn bodoli ac ni fyddai nifer o elusennau yn newid bywydau ar y raddfa y maent yn ei wneud nawr. Mae’r Pen-blwydd 25 mlynedd yn amser i adnabod a myfyrio ar yr effaith bositif ac aruthrol mae’r Loteri Genedlaethol wedi’i gael ar fywydau pobl mewn cymunedau led led Cymru.”
Darganfyddwch yr effaith bositif mae chwarae’r Loteri Genedlaethol wedi’i gael ar eich cymuned dros y 25 mlynedd diwethaf trwy edrych ar www.lotterygoodcauses.org.uk a chymryd rhan gan ddefnyddio’r hashnod: #LoteriGenedlaethol25.
Y rhifau yn gwneud i bethau anhygoel ddigwydd yng Nghymru:
- Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae dros £1.75 biliwn wedi cael ei fuddsoddi i mewn i dros 50,000 o achosion da yng Nghymru, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
- Pob wythnos, mae’r Loteri Genedlaethol yn cyflwyno £1.5 miliwn ar gyfartaledd tuag at achosion da yng Nghymru, gan gefnogi mwy na 40 o brosiectau.
- Ar gyfartaledd, mae’r Loteri Genedlaethol wedi ariannu 1,250 o brosiectau ym mhob cymdogaeth leol yng Nghymru ac mae pob cymdogaeth wedi derbyn £43.7 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol dros y 25 mlynedd diwethaf (yn seiliedig ar ddata etholaethau)
- Mae £8.4 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer Ffilm Cymru, yr asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilmiau Cymru, wedi arwain at 73 o ffilmiau Cymreig yn cael eu cynhyrchu: 226 o wneuthurwyr ffilmiau’n cael eu cefnogi; 2,000 o swyddi a lleoliadau i hyfforddai yn cael eu creu o fewn y diwydiant ffilm a theledu; a buddsoddiad o £81.4 miliwn mewn cynhyrchiadau.