Sut mae sefydliadau cymunedol ac amgylcheddol wedi cydweithio â phobl greadigol yng nghefn gwlad gogledd Cymru i archwilio gwahanol ffyrdd o weithio?

Mae Darganfod Dyffryn Dyfodol yn ddigwyddiad ar-lein ar 11 Gorffennaf 2023 (11:00 - 12:15), sy’n archwilio’r prosiect ymchwil a datblygu creadigol Dyffryn Dyfodol yn Dyffryn Conwy. Wedi’i ariannu gan Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru, byddwn yn rhannu rhywfaint o’r hyn rydym wedi’i ddysgu hyd yn hyn… gan gynnwys ein prosesau, ein dulliau a’n ffyrdd o weithio – gyda phartneriaid, cymunedau a phobl greadigol. Nid oes gennym yr holl atebion, darganfod gyda'n gilydd yw hanfod y prosiect.

Mae Dyffryn Dyfodol yn bartneriaeth rhwng Ffiwsar, sefydliad cynhyrchu creadigol yn Llanrwst, Cyfoeth Naturiol Cymru a Cartrefi Conwy, sefydliad tai cymdeithasol.

Yn cloi’r digwyddiad bydd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymateb i’r sesiwn ac mi fydd sesiwn holi ac ateb. 

Croeso i bawb.

Darganfod Dyffryn Dyfodol
11 Gorffennaf 2023 11:00 - 12:15
Sesiwn ar-lein
Cyfyngiad niferoedd, archebwch eich lle yma
https://www.eventbrite.co.uk/e/darganfod-dyffryn-dyfodol-discover-dyffryn-dyfodol-tickets-637905992997?aff=oddtdtcreator