Gall athrawon a disgyblion ddewis o bedwar cyfle creadigol ac artistig i brofi creadigrwydd yn yr ystafell ddosbarth a bod yn rhan o newid a gwelliant yn addysg Cymru.
Mae Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol yn rhaglen ddysgu bwrpasol sy'n archwilio dulliau creadigol o addysgu a dysgu gyda chefnogaeth Asiantau ac Ymarferwyr Creadigol. Mae pob un wedi'i gynllunio i fynd i'r afael ag anawsterau heriol yng nghynllun datblygu'r ysgol ac annog creadigrwydd disgyblion, codi cyrhaeddiad a chefnogi'r ysgol gyfan wrth ymaddasu i'r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Mae Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol yn cynnig cyfle i ysgolion weithio gyda Gweithwyr Creadigol amrywiol i edrych ar ffyrdd o archwilio hanes a datblygiad Cymru fel cymdeithas amlddiwylliannol a phrofiadau a chyfraniadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.
Rhaglen hyfforddi yw Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol sy'n paru arweinwyr ysgolion â gweithwyr creadigol. Mae'n gyfle unigryw i ddatblygu yn greadigol sgiliau arwain yn yr ysgol ac annog hyder mewn ffyrdd newydd o weithio, arloesi, meddwl a bod yn wydn.
Mae Cronfa Ewch i Weld hefyd ar agor ar gyfer ceisiadau ac mae'n cynnig cyfle i ysgolion fynd â disgyblion i brofi gwaith creadigol pobl eraill. Gallai fod yn ymweliad â'r theatr, cyngerdd, oriel gelf neu unrhyw brofiad celfyddydol arall o safon.
Mae Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau yn bartneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Maggie Russell, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: "Mae gennym wahanol gyfleoedd o fis Hydref ymlaen sy'n rhoi'r celfyddydau a'r creadigrwydd wrth wraidd addysg wrth inni barhau i gefnogi ysgolion i wireddu uchelgais y Cwricwlwm i Gymru. Mae cyfleoedd i athrawon wella eu datblygiad proffesiynol, i ddisgyblion ifanc ddysgu pynciau ar draws y cwricwlwm mewn ffyrdd creadigol a phrofi’r celfyddydau y tu allan i'r dosbarth."
Maggie Russell, Cadeirydd, Cyngor Celfyddydau Cymru.