Mae Cyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru yn falch iawn o lansio cyfle cyffrous i arweinwyr canol/uwch yn yr ysgol. Cymeradwyodd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru y cyfle i gefnogi arweinwyr ysgolion i ddatblygu arweinyddiaeth greadigol yn eu hysgol.

Ei nod yw annog hyder mewn ffyrdd newydd o weithio, arloesi, myfyrio a bod yn wydn wrth ddatblygu dealltwriaeth o swyddogaeth creadigrwydd yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru, y pedwar diben a'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.

Yn y rhaglen, caiff cyfranogwyr eu hannog i fyfyrio'n onest am eu hymarfer a'u cyd-destun proffesiynol a nodi'r rhwystrau i’w gallu i ddod yn arweinwyr creadigol.

Mae'r rhaglen wedi'i theilwra ar gyfer cam cynnydd presennol pob cyfranogwr yng ngyrfa eu harweinyddiaeth broffesiynol.

Beth fydd y cynnig yn ei gynnwys?

Bydd y rhaglen yn dechrau gyda hyfforddiant deuddydd gan y tîm Arweinyddiaeth Greadigol yng Nghyngor Celfyddydau Cymru.

Yna caiff pob cyfranogwr ei baru ag Asiant Creadigol, yn seiliedig ar anghenion, ardal ac iaith yr ysgol, gan ffurfio partneriaeth waith barhaus dros gyfnod o 12-18 wythnos.

Bydd yr Asiant Creadigol yn fentor a chyfaill beirniadol. Bydd yn atgyfnerthu egwyddorion arweinyddiaeth greadigol a chymryd rhan mewn deialog barhaus, gefnogol a myfyriol.

Bydd hefyd 2 gyfle rhwydweithio i rannu cynnydd a darparu cefnogaeth i eraill yno.

Yn y diwedd bydd sesiwn rannu gydweithiol i ledaenu'r archwiliadau personol ymhlith pawb sy'n gysylltiedig. Bydd hefyd yn bosibl ffurfio rhwydwaith parhaus.

Arian a chefnogaeth

Bydd pob arweinydd ysgol yn derbyn costau cyflenwi i ddod i’r hyfforddiant, y cyfarfodydd rhwydweithio a'r cyfarfod myfyrio yn y diwedd. Mae'n rhaid ichi ddod i’r hyfforddiant, y cyfarfodydd rhwydweithio a'r digwyddiad rhannu.

Bydd pob cyfranogwr yn cael cymorth mentora gan yr Asiant Creadigol am gyfnod o 12-18 wythnos.

Ni fydd grant uniongyrchol i’r ysgol.

Bod yn gymwys

Mae'r rhaglen yn bennaf ar gyfer y rhai sydd mewn swyddi arweinyddiaeth ganol neu uwch neu'n dymuno bod yn y fath swyddi. Ond rydym yn annog ymwybyddiaeth o arweinyddiaeth ym mhob swydd. Mae ar gyfer arweinwyr dysgu ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad ac nid yn y Celfyddydau Mynegiannol yn unig.

Byddem yn croesawu'n arbennig fynegi diddordeb gan ymgeiswyr o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol.

Sut i ymgeisio

Dyddiad cau ymgeisio yw 12pm 20 Chwefror 2024.

Amserlen

Dyddiad cau mynegi diddordeb    20 Chwefror 2024
Hyfforddiant i Arweinwyr Canol/Uwch  

Yn y De: 4 a 5 Mawrth 2024

Yn y Gogledd: 11 a 12 Mawrth 2024

Digwyddiad rhwydweithio ar-lein

29 Ebrill a 5 Mehefin 2024

Digwyddiad rhannu

Yn y De: 3 Gorffennaf 2024

Yn y Gogledd: 5 Gorffennaf 2024

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag un o'r tîm Dysgu Creadigol:

karen.dellarmi@celf.cymru

lora.winfield-young@celf.cymru

shaun.featherstone@celf.cymru

Cofiwch gofrestru i gylchlythyr Dysgu Creadigol i glywed yn gyntaf am yr holl gyfleoedd newydd drwy glicio yma.

Tystebau arwain greadigol

Adborth o broses sicrhau ansawdd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru (Gorffennaf 2023):

  • Mae'r ddarpariaeth yn cefnogi arweinwyr ledled Cymru i wireddu safonau a dyheadau uchel Ein Cenhadaeth Genedlaethol i bawb
  • Mae’n cael ei arwain gan bersonél, hwyluswyr, hyfforddwyr a mentoriaid o ansawdd uchel sy'n briodol i'r gynulleidfa darged
  • Mae'r ddarpariaeth yn ysbrydoli ac yn ysgogi'r genhedlaeth bresennol a'r nesaf o arweinwyr ar bob lefel o'u gyrfa, yn cefnogi llesiant ac yn diwallu ystod amrywiol o anghenion

Crynodeb o sylwadau'r cyfranogwyr yn ystod sesiynau rhannu

Roedd ysgol arbennig Brynllywarch yn gweithio gyda grŵp o fechgyn i wneud flog yn ystod taith sgïo i werthu’r daith i ddisgyblion y dyfodol. Roedd yn mynd cystal nes iddynt sylweddoli y byddai rhywbeth tebyg wedi helpu eu cyfnod pontio o gael recordiad o'u hysgol newydd i leihau eu pryder. Roeddent yn cydweithio â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd ac Arweinydd Digidol Powys i ddod o hyd i glustffonau VR i gynhyrchu teithiau ysgol sy’n fwy real na real.

Teimlai Ysgol Gynradd Sant Joseff fod y deunydd a rannwyd yn y digwyddiad rhwydweithio hanner ffordd am rym chwarae yn taro tant gyda nhw. Defnyddiodd yr athrawon nodiadau llais a dyddiaduron i gofnodi eu profiad ac roeddent yn ddiolchgar am fantra’r Asiant Creadigol: "Rhaid gwybod pwy ydych a rhaid ichi fod y person hwnnw bob dydd." "Roedd y cynwysoldeb wedi gwella wrth inni weld bod dysgu creadigol yn apelio’n well at y disgyblion ar lefel is ac yn herio’n fwy y disgyblion ar lefel uwch." "Mae’n ddefnyddiol iawn ailddarganfod eich hun a myfyrio ar eich ymarfer eich hun ac nid dim ond ar arwain eraill."

Mae Stanwell yn dweud ei bod wedi'i hysbrydoli gan y ffilmiau a ddangoswyd yn ystod y digwyddiad rhwydweithio hanner ffordd. O ganlyniad, mae wedi lledaenu gwaith yr Athro Bill Lucas drwy gydol yr ysgol ac arferion meddwl creadigol ymhlith y tîm Addysgu a Dysgu. Dywedodd y staff fod eu gallu i ddyfalbarhau’n isel oherwydd pwysau arholi ac asesu. Cydgynlluniwyd fframwaith bugeiliol newydd ar gyfer Blwyddyn 7 yn ystod y rhaglen a'i rannu â'r holl staff.

O'r grŵp Padlet

Archwilio'r syniad o fethiant chwareus - dwi'n gwybod y gallwch chi wneud hyn - dwi'n mynd i'w newid fel na allwch chi ei wneud - profwch fi'n anghywir!

Meddwl am sut rydym yn ystyried methiant o ran y proffesiwn yn yr ysgol ac nid yn unig yn yr ystafell ddosbarth.

Dod o hyd i'r cydbwysedd rhwng bod yn hunanymwybodol, bod yn ymwybodol o'r ysgol a bod yn garedig inni ein hunain fel disgyblion ac arweinwyr