Cyfradd tâl: £200 y diwrnod 

Math o gytundeb: 25 o ddiwrnodau rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr, yn ddelfrydol wedi’u lledaenu dros y cyfnod hwn o amser.

Lefel profiad: 2+ o flynyddoedd mewn swydd marchnata

Lleoliad: Gweithio o bell, hybrid neu ar y safle yn TimeScape Rhaeadr, Unedau 1 + 2 East Street Enterprise Park, Stryd y Dwyrain, Rhaeadr, LD6 5ER

Gwybodaeth am CARAD

Elusen dreftadaeth a chelfyddydau cymunedol cynhwysol yw CARAD (Community Arts Rhayader and District) sy’n gweithio er budd pobl Canolbarth Cymru.  ‘Rydym yn darparu canolbwynt creadigol sy’n meithrin ac yn arddangos treftadaeth gymdeithasol a diwylliannol gyfoethog yr ardal.  ‘Rydym yn ceisio creu cymuned ddiwylliannol fywiog a gwydn. 

‘Rydym yn cynnal digwyddiadau treftadaeth, lles a chelfyddydol yn aml, sy’n rhoi llwyfan i bobl greadigol leol, ac sy’n cyfrannu at ddarpariaeth ddiwyllianol Canolbarth Cymru a llesiant y trigolion lleol.

‘Rydym hefyd wedi creu a rheoli atyniad ymwelwyr pob tywydd – TimeScape Rhaeadr. Mae TimesScape newydd agor i’r cyhoedd ac yn archwilio hanesion hynod o ddiddorol o’r gorffennol a’r presennol.

Gwybodaeth am y swydd

Mae CARAD wedi derbyn cyllid oddi wrth Gyngor Sir Powys i gyflwyno prosiect i hybu eu gwytnwch fel sefydliad.  Fe fydd y swydd hon yn datblygu ac yn cyflwyno strategaeth farchnata i CARAD a’u hatyniad ymwelwyr newydd, TimeScape Rhaeadr.

Cyfrifoldebau

 - I adolygu awgrymiadau marchnata sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun busnes    a ddatblygwyd gan ymgynghorwyr creadigol Addo ac eraill ac i ddatblygu cynllun marchnata cadarn am 2024-2026, ar gyfer gweithgareddau CARAD a TimeScape Rhaeadr

 - Gweithredu’r cynllun marchnata ar draws gwefannau trydydd parti perthnasol, cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau a’n gwefannau ni.

 - I sicrhau bod agweddau o’r cynllun (e.e. gwybodaeth am ddyddiadau cau gwefan a chyfarwyddiadau) yn gyflawnadwy gan wirfoddolwyr neu staff yn 2025

 - I groes-hyrwyddo gweithgareddau gyda sefydliadau celfyddydau lleol eraill, ynghyd â gwyliau rhanbarthol a phenwythnosau celfyddydol

- I ddatblygu adnodd traws-farchnata gyda sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol a chelfyddydol ar hyd yr A44 a’r A470

Cyflawniadau

- Creu a gweithredu cynllun marchnata i CARAD a TimeScape Rhaeadr

- I ddatblygu adnodd traws-farchnata gyda sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol lleol ar y cyd gyda dylunydd graffeg a Swyddog Celfyddydau i godi proffil Rhaeadr a Chanolbarth Cymru yn ehangach

 - Gwella ymgysylltiad ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol CARAD

- Creu adroddiad/adroddiadau i’r rheolwr llinell ar eich cynnydd.

Anghenion

 - Profiad blaenorol mewn sefydliadau marchnata sy’n cynnig gweithgareddau a digwyddiadau

 - Profiad mewn rheoli amryw o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol

- Sylw i fanylion rhagorol, gan sicrhau cywirdeb a chysondeb mewn pob cyfathrebiad

 - Gallu profedig i weithio’n annibynnol ac addasu i flaenoriaethau sy’n newid yn gyflym

 - Profiad o weithio gydag elusennau bach gydag adnoddau cyfyngedig, ac mewn timau bach

 - Dangos sgiliau cyfathrebu da tra’n gweithio gydag ystod o bobl

 - Profiad o rheoli prosiect, gan gynnwys rheoli terfynau amser, cydlynu tasgau a sicrhau cyfathrebu llyfn

 - Profiad o greu deunydd marchnata gyda nifer o rhanddeiliaid.

Sut i ymgeisio

Llenwch a dychwelwch y ffurflen gais a’ch CV erbyn 9yb ar y 3ydd o Orffennaf. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd hon, cysylltwch â manager@carad.org.uk

Fe fyddwn yn cynnal cyfweliad anffurfiol gyda’r ymgweiswyr ar y rhestr fer yr wythnos yn cychwyn 8fed o Orffennaf.

Dyddiad cau: 03/07/2024