Mae'r rôl hon yn rhan o dîm clos sy'n canolbwyntio ar werthiant, gyda phwyslais ar gyflwyno gwaith celf sydd wedi'i ddylunio'n dda ac sy'n canolbwyntio ar frand ar gyfer ymgyrchoedd. Mae’n gweithio fel rhan o'r Tîm Marchnata i sicrhau ein bod yn cyrraedd targedau, yn sicrhau cymaint o gynulleidfaoedd â phosib, yn denu ymwelwyr newydd, yn cynnal lefelau uchel o incwm ac yn sicrhau cydnabyddiaeth brand ardderchog. Mae’r rôl hon yn gweithio ar draws Theatr Clwyd, Neuadd William Aston a Cherddoriaeth Theatr Clwyd.

  • Math o Gontract - Parhaol
  • Teulu - Profiad
  • Arbenigedd y tîm - Marchnata
  • Oriau - 37 awr yr wythnos
  • Cyflog Cychwynnol - £23,407
  • Gradd Cyflog - OP2
  • Yn atebol i - Rheolwr Marchnata

Bydd y gwaith o lunio rhestr fer o'r ceisiadau a’r cyfweliadau ar gyfer y rôl yn cael eu cynnal tra bydd yr hysbyseb yn fyw; bydd yr hysbyseb yn cau ar ôl dod o hyd i'r ymgeisydd (ymgeiswyr) llwyddiannus. Anogir ymgeiswyr felly i gyflwyno ceisiadau cyn gynted â phosibl.

Dyddiad cau: 30/04/2024