Dyma Adolygiad Buddsoddi 2020 Cyngor y Celfyddydau ac mae'n dilyn adolygiadau cyffelyb yn 2010 a 2015. Mae’r ymgynghoriad yn parhau tan 10 Ionawr 2020.
Ar hyn o bryd mae Cyngor y Celfyddydau yn darparu cyllid o rhyw £28.5m i rwydwaith genedlaethol o 67 o sefydliadau sy’n derbyn arian refeniw yn flynyddol oddi wrth Gyngor y Celfyddydau. Ymhlith y sefydliadau hyn, Portffolio Celfyddydol Cymru, mae sefydliadau o bwys rhyngwladol megis Opera Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru, canolfannau lleol mawr megis Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth a Chanolfan Grefft Rhuthun a sefydliadau mwy cymunedol megis Plant y Cymoedd a Celf ar y Blaen.
Mae aelodau cyfredol y portffolio yn cael gwahoddiad i ymgeisio am barhad yn eu cyllid. Mae cyfle hefyd i sefydliadau newydd gyflwyno cais ar gyfer eu cynnwys o fewn y portffolio. Bydd penderfyniadau terfynol ar gyllido yn weithredol o 1 Ebrill 2021.
Mae'r adolygiad buddsoddi hwn yn canolbwyntio ar annog mwy o bobl yng Nghymru i fwynhau'r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt. Mae Cyngor y celfyddydau yn parhau i fod yn llwyr ymrwymedig i gefnogi gwaith o'r ansawdd uchaf ond mae'r un mor benderfynol y dylai gweithgarwch celfyddydol a ariennir yn gyhoeddus gyrraedd ystod ehangach o bobl yng Nghymru.
Gan siarad heddiw, dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Ers ei ddechrau, mae dau nod gan gyllid cyhoeddus i’r celfyddydau: ymgyrraedd at ragoriaeth, a hybu mynediad i alluogi mwy o bobl i fwynhau a chael budd o’r celfyddydau. Ond tan yn gymharol ddiweddar, gellid dadlau mai’r cyntaf a gâi ei ffafrio ar draul yr ail. Mae angen i hyn newid oherwydd dyw hi ddim yn iawn bod manteision y celfyddydau a ariennir gan y cyhoedd yn cael eu mwynhau gan gyfran mor gyfyng o’r boblogaeth. Estyn allan i gynulleidfaoedd a chyfranogwyr newydd yw amcan allweddol yr adolygiad buddsoddi hwn.”
Aeth Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Nick Capaldi, yn ei flaen gan ddweud:
"Bydd y penderfyniadau a wnawn yn ystod y flwyddyn nesaf yn cael effaith pellgyrhaeddol. Rydym am gefnogi'r sefydliadau celfyddydol gorau yng Nghymru a byddwn yn edrych gyda diddordeb arbennig ar sefydliadau sydd â dulliau dychmygus ac effeithiol o gael pobl i gymryd rhan yn eu gweithgareddau. O gofio hyn, mae'n bwysig iawn ein bod yn glir ynglŷn â'r hyn rydym yn ceisio ei gyflawni a'n bod yn ymgynghori'n eang ar y prosesau yr ydym yn bwriadu eu mabwysiadu."