Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnal arolwg o'r holl leoliadau celfyddydol ledled Cymru er mwyn deall effaith grantiau cyfalaf y gorffennol, cyflwr presennol adeiladau’r lleoliadau celfyddydol ac asesu'r gofynion ar gyfer buddsoddi cyfalaf yn y dyfodol.

Byddem yn ddiolchgar iawn pe byddech yn llenwi’r arolwg hwn – bydd ei ganfyddiadau'n helpu i lywio ein strategaeth grantiau cyfalaf yn y dyfodol. Mae'r holl wybodaeth a rowch yn gyfrinachol ac wrth gyhoeddi canfyddiadau’r arolwg, ni chrybwyllwn enw unrhyw sefydliad unigol.

Mae'r arolwg hwn ar gyfer pob sefydliad celfyddydol sydd ar waith yng Nghymru ac sy'n berchen ar, neu’n rhentu, o leiaf un adeilad yng Nghymru at ddibenion celfyddydol. Dylai gymryd 20 munud neu lai i'w lenwi. Rydym yn gwerthfawrogi eich amser yn fawr.

Dychwelwch yr arolwg erbyn 21 Mehefin.