Digwyddodd yr Adolygiad Buddsoddi diwethaf yn 2015 pan dderbyniodd 67 cwmni eu siâr o gronfa gwerth £28.5 miliwn.
O dan yr hen drefn, roedd yr arian yn cael ei rannu dros gyfnod o bum mlynedd, ond wedi cyfnod o ymgynghori, mabwysiadwyd model newydd sy’n ei gwneud hi’n haws ymgeisio. Y tro hwn, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr arian dros dair mlynedd gyda’r opsiwn o dair mlynedd ychwanegol yn ddibynnol ar gwrdd â’r meini prawf.
Wrth graidd yr adolygiad bydd chwe egwyddor y bydd disgwyl i pob cais ddangos eu hymrwymiad iddynt wrth ymgeisio:
• Creadigrwydd
• Ehangu Ymgysylltiad
• Y Gymraeg
• Cyfiawnder Newid Hinsawdd
• Meithrin Talent
• Trawsnewid
Mae’r canllawiau yn cynnwys manylion am sut i ymgeisio, cwestiynau a ofynnir yn fynych, a’r holl ddyddiadau pwysig. Bydd modd ymgeisio am Adolygiad Buddsoddi 2023 rhwng 9 Ionawr 2023 a 31 Mawrth 2023. Gellir dod o hyd i’r dogfennau ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru a byddent ar gael ar ffurf ‘Easy Read’ a Iaith Arwyddo Prydain.
Cliciwch ar y ddolen hon am fwy o wybodaeth: https://arts.wales/cy/adolygiad-buddsoddi