Mae cwmni theatr Frân Wen wedi cyhoeddi artistiaid Fy Arddegau Radical.
Mae'r prosiect sy’n cynnig cyfle i artistiaid gyda thros 20 mlynedd o brofiad sy’n barod i ail-ymgysylltu â'i hunan fel person ifanc radical er mwyn datblygu gwaith newydd dewr ac eofn yma yn Frân Wen.
Mae’r prosiect yma yn ran o Rhaglen Datblygu Artistiaid y cwmni sy’n hwyluso preswyliadau ymchwil a datblygu a darparu adnoddau i artistiaid ddatblygu syniadau ar gyfer gwaith gwreiddiol a chyffrous.
Yr artistiaid a'u prosiectau
🌟 Rhiannon Mair: Gwenllian
Bydd yr ymarferydd theatr a pherfformiwr Rhiannon Mair yn datblygu prosiect amlddisgyblaethol a ysbrydolwyd gan y Dywysoges Gwenllian. Yn rhannol daith gerdded, a rhannol protest - mae Rhiannon am ddatblygu taith sy’n mynd â’r gynulleidfa a’r perfformwyr gyda’i gilydd tra’n ymchwilio rhywedd, hunaniaeth, pŵer ac etifeddiaeth.
🌟 Hannah McPake: Bwystfil
Bydd y actor, cyfarwyddwr a dramodydd Hannah McPake yn archwilio sut i ail-ddychmygu chwedlau mewn byd goruwchnaturiol yn y dyfodol agos lle mae iaith yn newid, pŵer yn esblygu a lle mae rhywun yn brwydro dros eu hunaniaeth. Ydan ni’n barod i wynebu’r bwystfilod dan ni’n cario?
🌟 Catrin Williams a Pat Morgan: Be' Ddigwyddodd
Bydd yr artist tirluniau Catrin a’r cerddor Pat Morgan o’r band eiconig Datblygu yn mynd yn groes i’r rheolau trwy gyfuno tirluniau amrwd a thirweddau sonig! A oes modd ail-ddychmygu hunaniaeth Gymreig pan fydd celf a sain yn gwrthdaro?
Bydd pob artist yn derbyn £1,500 i ddatblygu eu syniadau gyda Frân Wen a’i gymunedau.