Mae Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau yn rhaglen arloesol, sy'n rhoi celfyddyd a chreadigrwydd wrth wraidd addysg ac sydd wedi trawsnewid dulliau addysgu yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf.
Mae rhagor na 119,000 disgybl o 1,200 ysgol ledled Cymru wedi elwa ar ‘Ddysgu creadigol drwy'r celfyddydau’. Bu Cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol wrth wraidd y rhaglen gyda 604 ysgol sydd wedi ymgysylltu â gweithwyr creadigol i archwilio dulliau creadigol o addysgu a dysgu, gwella cyrhaeddiad a datblygu sgiliau athrawon. Mae maes arall, Ewch i Weld, wedi cefnogi dros 800 ymweliad â digwyddiadau celfyddydol o safon mewn orielau, theatrau, canolfannau celfyddydol a lleoliadau eraill. Yn aml roedd yr ymweliadau’n gatalydd i ysbrydoli gweithgarwch celfyddydol yn yr ystafell ddosbarth.
Wrth i ysgolion ymbaratoi ar gyfer cwricwlwm Cymru 2022 bydd dwy flynedd arall o arian yn fodd inni ymgysylltu â rhagor o ysgolion gan ddefnyddio gwybodaeth ac arbenigedd yr ysgolion sydd eisoes yn rhan o’r cynllun. Bydd hefyd yn:
- darparu datblygiad proffesiynol parhaus i athrawon ac artistiaid
- datblygu sgiliau creadigol i’n disgyblion
- parhau i gynnig cyfleoedd i ddisgyblion ymchwilio i ddiwylliant a’r celfyddydau
Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:
“Mae cael mynediad i raglen dysgu creadigol trwy’r celfyddydau yn helpu disgyblion, nid yn unig i feithrin medrau a meddwl creadigol, ond yn helpu o ran disgyblaethau eraill hefyd megis ieithoedd a phynciau gwyddonol a rhai sy’n defnyddio technoleg. Mae defnyddio medrau ar draws rhychwant eang o bynciau fel hyn yn elfen allweddol o’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
“Mae ‘na enghreifftiau rhagorol i’w gweld o elfen Ewch i Weld y rhaglen sydd wedi cyflwyno disgyblion i brofiadau celfyddydol cwbl newydd. Rwy’n falch o fod yn parhau i gefnogi’r cyfleoedd hyn ar gyfer pobl ifanc mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru.
“Edrychaf ymlaen at weld hyd yn oed mwy o ddisgyblion ac ysgolion yn cael budd o ddysgu creadigol yn ystod y ddwy flynedd nesaf.”
Dywedodd Jane Marchesi, Pennaeth Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru, Llaneirwg yng Nghaerdydd fod yr ysgol wedi elwa’n fawr:
"Roedd y cynllun yn fodd inni ymbaratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd mewn gwahanol ffyrdd. Mae wedi ein helpu i roi cynnig ar wahanol strategaethau dysgu a meddwl am ein gwaith a sut rydym ni’n mynd o’i gwmpas. Roeddem ni wedi cwestiynu amgylchedd y dosbarth a'n dull o ddysgu ac addysgu.
"Mae ein pobl ifanc wedi ffynnu o gael cyfleoedd gan Ddysgu creadigol. Maent wedi datblygu yn ddisgyblion gweithredol, ond rydym ni hefyd wedi gweld eu cymeriadau'n datblygu wrth ennill y dewrder i archwilio syniadau newydd a mynegi eu barn."
Dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:
"Mae’r Cyngor yn falch iawn y bydd ail gam y rhaglen arloesol yma’n parhau i gefnogi ysgolion i ddatblygu dulliau creadigol o addysgu a dysgu.
"Bydd gweithwyr creadigol yn cefnogi ysgolion i ddatblygu eu gweledigaeth ar gyfer dysgu ac addysgu yng nghyd-destun Cwricwlwm i Gymru 2022 a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf."
Bydd buddsoddiad o £3 miliwn o arian Llywodraeth Cymru ac arian Loteri Genedlaethol Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymestyn y cynllun am ddwy flynedd arall.
DIWEDD 7 Chwefror 2020