Gan adrodd i’r Tîm Gweithredol, mae Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd yn gyfrifol am gynllunio a chyflwyno Stiwdio Clwyd fel stiwdio genedlaethol i Gymru i ddatblygu a chefnogi gwneuthurwyr theatr proffesiynol ym mhob cam o’u gyrfa.

Bydd Stiwdio Clwyd yn lle i’n cymunedau creu theatr ni ddatblygu eu sgiliau, creu llwybrau i’r sector theatr ehangach, a mireinio eu crefft a’u chwarae. Bydd yn ofod cydweithredol sy’n gynhwysol, a bydd amser yn cael ei roi yn rhydd heb ddisgwyl dim yn ôl. Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd fydd yn gyfrifol am sefydlu’r stiwdio a chreu rhaglen wedi’i churadu yn seiliedig ar y sgyrsiau gyda’n cymunedau llawrydd am eu hanghenion a’r hyn maen nhw’n ei deimlo fyddai’n fwyaf defnyddiol o stiwdio ddatblygu i Gymru.

Mae prif dasgau’r rôl yn cynnwys arweinyddiaeth strategol, datblygiad a thwf, a rheolaeth weithredol gyda ffocws allweddol ar y canlynol:

  • Arwain y gwaith o greu Stiwdio Clwyd o raglenni datblygu unigol i raglen wedi'i churadu sy'n cefnogi ein cymunedau llawrydd.
  • Dylanwadu, trafod a chreu tîm cadarn gan fod gweithio mewn partneriaeth, a chynhyrchu incwm, yn hanfodol i lwyddiant y rhaglen yn y dyfodol.
  • Gweithredu fel llefarydd a llysgennad Stiwdio Clwyd, gan gynrychioli'r stiwdio ar lefel leol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.
  • Gyda'r Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu, creu hunaniaeth brand gadarn i Stiwdio Clwyd sy'n unigryw ond sydd hefyd yn cyd-fynd â gwaith Theatr Clwyd.
  • Hyrwyddo a datblygu artistiaid a gwneuthurwyr theatr Cymreig ac sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.

Mae'r swydd yn cael ei chyllido gan Sefydliad John Ellerman

Dyddiad cau: 09/07/2024