01 Rhagfyr 10 am- 12pm

YMA Pontypridd, Taff Street, Pontypridd,

Cyfarfod peilot i sefydlu gweithgor dawns newydd yn RhCT

Ffocws Hybiau Clwstwr Diwydiannau Creadigol (CICH) RhCT yw adeiladu clwstwr celfyddydau a diwydiannau creadigol mwy yn RhCT trwy ddigwyddiadau rhwydweithio ac ymgysylltu a chymorth busnes creadigol wedi’i dargedu a chychwyn busnes. Nod y prosiect yw cynyddu cydweithredu ac arloesi rhwng pobl greadigol, busnesau a sefydliadau.

Rydym yn gwahodd pawb sy’n gweithio ym myd dawns ar draws RhCT, (neu a hoffai weithio yn RhCT wrth symud ymlaen), i ymuno â ni ar gyfer cyfarfod peilot cychwynnol i ffurfio clwstwr gweithgor dawns newydd RhCT. Mae croeso i bawb sy’n ymwneud â dawns ar draws y sir o blith dawnswyr, coreograffwyr, athrawon ysgol a choleg, ymarferwyr dawns cymunedol a’r rhai sy’n gweithio mewn ffurfiau eraill ar gelfyddyd a allai glymu i mewn i ddawns e.e. cerddorion a chyfansoddwyr, artistiaid ffilm, dylunwyr a chynhyrchwyr gwisgoedd a set. Mae’r grŵp ar gyfer llawryddion, pobl gyflogedig a sefydliadau a busnesau i ddod at ei gilydd i drafod llwyddiannau a heriau presennol dawns yn RhCT ac i drafod yr hyn sydd angen ei ddatblygu a sut gall y prosiect gefnogi hyn.

Mae’r prosiect yn ymwneud â chefnogi unigolion a sefydliadau i ddatblygu eu cynlluniau busnes strategol a’u sgiliau er mwyn ffynnu a datblygu yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn trafod sut y gallwn gydweithio a rhwydweithio’n fwy effeithiol ac eto sut y gall y prosiect gefnogi hyn. Fel rhan o’r prosiect, mae Prifysgol De Cymru hefyd yn cynnig lleoedd wedi’u hariannu ar eu rhaglen ‘Start-up Stiwdio Sefydlu’ i gefnogi entrepreneuriaid o RhCT neu sy’n gweithio/a hoffai weithio yn RhCT gyda’u syniadau cychwyn busnes.

Dysgwch fwy am y prosiect Hybiau Clwstwr Diwydiannau Creadigol gan gynnwys y Start-up Stiwdio Sefydlu yma:

creativecardiff.org.uk/funding-boost-creative-industries-three-areas-south-wales

Bydd y cyfarfod yn cael ei hwyluso gan Sarah Rogers o Ransack Dance Company a bydd Richie Turner o Brifysgol De Cymru hefyd yn bresennol. Mae’n sgwrs agored hamddenol lle croesewir unrhyw syniadau a barn. Hwn fydd y cyfarfod peilot cyntaf lle byddwn yn datblygu syniadau am sut y gall y prosiect ddatblygu yn y dyfodol.

Archebwch docynnau