Crynodeb o’r Swydd
Mae'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yn recriwtio Cydlynydd Prosiect i helpu i gyflawni prosiect celfyddydol cyffrous yn Wrecsam, gan adrodd i Gyfarwyddwr y Prosiect.
Swydd-ddisgrifiad
Bydd y Cydlynydd Prosiect yn helpu i ddarparu pob agwedd ar gynhyrchu, darparu a chyfeiriad y rhaglen a bennir gan Gyfarwyddwr y Prosiect.
Bydd mapio ac ymgysylltu â'r gynulleidfa a chyfranogwyr yn rhan annatod o'r rôl hon. Gweithio'n agos gyda chymunedau, partneriaid allweddol ac artistiaid i weithredu a chydlynu gweithgareddau, digwyddiadau ar draws rhaglenni yn ogystal â darparu data a gesglir yn rheolaidd, monitro a chreu amgylchedd gweithredol cadarnhaol a hyfyw, a fydd yn galluogi'r rhaglen i ffynnu.
Uchelgais ac Arfer Gorau: Hwyluso artistiaid o Gymru, y DU ac artistiaid rhyngwladol i greu gwaith ystyrlon, beiddgar neu uchelgeisiol gydag ymdeimlad o le yng nghanol coridor Safle Treftadaeth y Byd Wrecsam / Bwrdeistref Wrecsam, gyda dull cyfannol rhwng datblygiad artistig, adnoddau a phartneriaethau'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd.
Math o gontract: Llawrydd.
Hyd y contract: 200 diwrnod tan 31/12/24.
Ffi: £130 y dydd.
Mae'r ffi yn cynnwys costau teithio lleol o fewn radiws o 20 milltir. Y tu hwnt i hyn, os bydd angen, bydd costau teithio’n cael eu darparu fel y cytunir.
Gofynion y Swydd
- Y gallu i weithio gyda grŵp amrywiol o bobl, gan gynnwys cymunedau lleiafrifol neu ar y cyrion.
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn fewnol ac yn allanol gydag amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd a defnyddio dulliau amrywiol sy’n addas ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.
- Dymunol: atebolrwydd amlinelledig wrth weithio mewn lleoliad celfyddydol.
- Brwdfrydedd dros weledigaeth ddiwylliannol a datblygu Canol Wrecsam a Bwrdeistref Wrecsam, gyda dealltwriaeth o rôl y celfyddydau mewn cyd-destun diwylliannol, economaidd a gwleidyddol ehangach.
- Diddordeb brwd a/neu brofiad o weithio ym maes natur, yr amgylchedd, diwylliant, treftadaeth a llesiant.
- Profiad o reoli cyllidebau.
- Tystiolaeth o allu i ddylanwadu a chydweithio ag adrannau/ rhanddeiliaid eraill.
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol.
- Tystiolaeth o allu i feithrin perthynas gadarn â rhanddeiliaid allweddol.
- Y gallu i weithio’n dda dan bwysau, cymhelliant cryf a’r gallu i hunanreoli.
- Gallu cynrychioli’r Ymddiriedolaeth yn allanol a chynrychioli gwerthoedd a dyheadau’r Ymddiriedolaeth yn broffesiynol.
- Dangos cadernid personol a’r gallu i ddefnyddio menter i oresgyn anawsterau.
- Defnyddio a rhannu gwybodaeth yn briodol er mwyn datblygu eich hun, eich tîm a darpariaeth ymgysylltiad cymunedol yn barhaus.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.