Gweithio 1 diwrnod yr wythnos / 7.5 awr
Cyflog: £23,500 pro rata
Contract tymor penodol 2 flynedd o 5 Awst 2024
Adrodd i'r Cyfarwyddwr Artistig a Busnes
Mae People Speak Up (PSU) yn sefydliad cymunedol cymdeithasol, celfyddydol, iechyd, iechyd meddwl a lles sy'n cysylltu pobl ac yn creu cymunedau iachach a gwydn trwy adrodd straeon, barddoniaeth lafar, ysgrifennu creadigol, gwirfoddoli, hyfforddi, a'r celfyddydau cyfranogol.
Mae hon yn swydd newydd sydd wedi'i chreu o ganlyniad i gais grant llwyddiannus i ariannu cydlynydd gwirfoddolwyr a gardd gymunedol am un diwrnod yr wythnos, neu gyfwerth.
Derbyniodd People Speak Up arian i sefydlu gardd gymunedol yn y Ffwrnes Fach yng nghanol tref Llanelli. Hyd yma mae hyn wedi'i redeg gan y tîm staff a gwirfoddolwyr. Wrth i'r ardd ddechrau tyfu o ran maint, mae angen rhywun arnom nawr i ofalu amdani a chydlynu'r gwirfoddolwyr sy'n cefnogi gofal yr ardd, a gwaith People Speak Up ar draws y sefydliad.
Mae'r ardd yn ardd lles, yn tyfu perlysiau, ffrwythau a llysiau a blodau brodorol i annog pryfed peillio i'r ardal drefol hon.
Mae'n noddfa i bobl o bob oed, cefndir a phrofiad bywyd i'w mwynhau, yn arddwyr newydd neu brofiadol sydd am gael eu dwylo'n frwnt, neu'n bobl sy'n chwilio am le heddychlon i ymlacio, ysgrifennu, tynnu llun a chefnogi eu hiechyd meddwl a'u lles.
Gan weithio un diwrnod yr wythnos, neu 7.5 awr wedi'u rhannu ar draws yr wythnos, byddwch yn arwain ar gynllunio, paratoi, plannu a gofal parhaus yr ardd, gan sicrhau ei bod yn cael ei chynnal yn dda, ac yn lle diogel a chroesawgar i bawb ei fwynhau.
Byddwch yn cynnal yr holl offer, strwythurau plannu a byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn cael eu rhoi ar waith a'u dilyn.
Byddwch yn arwain ar recriwtio, hyfforddi a chefnogi parhaus gwirfoddolwyr ar gyfer yr ardd ac ar draws y sefydliad.
Bydd hyn yn cynnwys sefydlu gwirfoddolwyr i'r sefydliad, trefnu hyfforddiant diogelu, sesiynau hyfforddiant iechyd a diogelwch a threfnu gwiriadau DBS.
Mae gwirfoddolwyr yn ennill credydau Amser Tempo https://wearetempo.org/ fel rhan o gynllun gwobrwyo a chydnabod am y gwaith amhrisiadwy maent yn ei wneud o fewn eu cymunedau. Byddwch yn rheoli'r cynllun ar gyfer People Speak Up, yn cofnodi'r oriau a nifer y credydau ar gyfer pob gwirfoddolwr ac yn cefnogi pobl i hawlio eu credydau.
Byddwch yn gweithio gyda phobl ifanc, pobl hŷn a phobl agored i niwed felly mae mynychu sesiynau hyfforddiant diogelu a gwiriad DBS clir yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
I ymgeisio
Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol neu fideo byr*, uchafswm o 5 munud, yn rhoi enghreifftiau i esbonio sut rydych yn bodloni manyleb y rôl, at Eleanor Shaw eshaw@peoplespeakup.co.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Saesneg neu Gymraeg.
*Os ydych yn anfon fideo, e-bostiwch Eleanor yn gyntaf gyda'ch manylion cyswllt a CV os oes gennych un. Mae ffeiliau fideo yn aml yn rhy fawr i'w e-bostio felly anfonwch ef trwy Wetransfer neu debyg i sicrhau ei fod yn ein cyrraedd. Gellir anfon fideos hefyd trwy WhatsApp at Eleanor ar 07972 651920, cynhwyswch eich enw llawn fel y gallwn ei gyfateb â'ch e-bost. Cysylltwch â ni os oes angen help arnoch i wneud hyn.