Llawn amser, 37 awr yr wythnos

Cyfnod penodol, 12 mis

Gradd C: Cyflog cychwynnol o £30,142

Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.

Yr iaith Gymraeg: Hanfodol

Am y rôl

Canlyniad partneriaeth newydd rhwng y Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yw’r swydd hon gyda nawdd ychwanegol o’r Ganolfan trwy’r cynllun Cymraeg Gwaith. Ei bwriad yw i greu, cynnal a chydlynu gwasanaeth newydd ‘Cymraeg Gwaith’  ar gyfer y sector gelfyddydol.

Bydd y cydlynydd yn darparu cyfleoedd i staff y cyngor, artistiaid unigol, mudiadau a chanolfannau celfyddydol i ddatblygu a thyfu eu sgiliau a hyder yn y Gymraeg trwy ddarparu cyrsiau dysgu Cymraeg perthnasol, cydlynu cyfleoedd i fagu hyder yn eu Cymraeg a chreu adnoddau dysgu Cymraeg perthnasol i’r maes celfyddydol.

Bydd y cydlynydd yn ymateb i argymhellion ymchwil ‘Llwybrau datblygu’r Gymraeg o fewn y celfyddydau’ gan ganolbwyntio ar anghenion artistiaid, mudiadau a chanolfannau celfyddydol wrth ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Amdanoch chi

Bydd gofyn defnyddio gwybodaeth a phrofiad dysgu Cymraeg wrth ymateb i ofynion  o fewn y sector. Bydd profiad neu sgiliau creadigol yn fanteisiol i’r swydd am y bydd angen ymateb yn greadigol i heriau a chreu dulliau dysgu perthnasol i’r sector.

Bydd gennych ddealltwriaeth am y maes dysgu Cymraeg a chodi hyder yn y defnydd o’r Gymraeg, dealltwriaeth am sector y celfyddydau a sector y Gymraeg yng Nghymru a sut maent yn gweithredu, profiad o weithio gydag amryw bartneriaid ac unigolion, a’r gallu i ysbrydoli pobl i gofleidio'r Gymraeg. Gweler y disgrifiad swydd am fanylion llawn gofynion y rôl.

Yr Iaith Gymraeg

Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn fformat Word i AD@celf.cymru Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.

Dyddiad cau:                         12:00pm (canol dydd) dydd Mawrth 28 Mehefin 2022

Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.

Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.

Dogfen09.06.2022

Pecyn Swydd Cydlynydd Dysgu Cymraeg