Cyfle i weld Waltz bythgofiadwy Marcos Morau a dau ddarn dawns newydd gan artistiaid o Gymru ac artistiaid wedi eu lleoli yng Nghymru.
Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) ar daith gyda rhaglen newydd o’r enw Gwefr | Surge, a fydd yn cynnwys tri darn unigryw o ddawns gan dri choreograffydd gwahanol iawn - Marcos Morau, Osian Meilir a Faye Tan (mewn cydweithrediad â Cecile Johnson Soliz).
Mae Gwefr | Surge yn rhannu’r gorau o goreograffi Cymru i’r byd, yn ogystal â dod â rhai o goreograffwyr mwyaf poblogaidd y byd i Gymru.
Bydd Gwefr | Surge yn arddangos ffefryn cynulleidfaoedd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ochr yn ochr â dau ddarn dawns newydd gan artistiaid o Gymru ac artistiaid wedi eu lleoli yng Nghymru, sydd wedi cydweithio gyda rhai o’r lleisiau mwyaf cyffrous mewn cerddoriaeth a’r celfyddydau gweledol yng Nghymru.
Yn dilyn llwyddiant ysgubol fel rhan o daith Pwls yn 2023, bydd CDCCymru yn cyflwyno ‘Waltz’ Marcos Morau eto, sioe a swynodd gynulleidfaoedd ledled Ewrop gyda’i chwimder a’i chywirdeb, a’i gwisgoedd disglair.
Mae Marcos Morau wedi gweithio ledled y byd gyda rhai o’r gwyliau a chwmnïau dawns mwyaf cyffrous. Mae’n adnabyddus am greu tirweddau swreal sy’n weledol drawiadol. Bydd cefnogwyr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cofio ‘Tundra’ gan Marcos Morau, a grëwyd ganddo a’r Cwmni yn 2017.
"Mae arddull symudiadau Marcos Morau yn hudolus i’w gwylio. Mae ei waith yn llesmeiriol iawn ac mae Waltz yn ffefryn mawr gyda’r cefnogwyr, felly rydym wrth ein bodd yn gweld y gwaith dramatig, cymhellol a chyffrous hwn yn dychwelyd yr hydref hwn, ochr yn ochr â dau waith yr un mor fywiog gan grewyr yng Nghymru, Faye Tan ac Osian Meilir, â’r ddau wedi cydweithio gydag artistiaid gweledol, dylunwyr a cherddorion i greu profiadau dawns gwahanol a fydd yn arddangos talentau medrus y cwmni.” David Wilson, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro (a Chyd Brif Weithredwr), CDCCymru
Mae ‘Infinity Duet’ yn gydweithrediad unigryw rhwng y coreograffydd Faye Tan a’r artist Cecile Johnson Soliz, gyda cherddoriaeth gan yr artist sain sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, Richard McReynolds.
Fe’i perfformiwyd gyntaf fel rhan o Fyrion CDCCymru yn gynnar yn 2025, yn Infinity Duet gwelir dau ddawnsiwr ar y llwyfan ochr yn ochr â cherflun siglog mawr a wnaethpwyd gan Johnson Soliz, ac roedd ei ddarluniau ar y dillad hefyd.
“Mae Cecile a minnau wedi creu darn lle nad yw dawns na cherflun yn cael blaenoriaeth, gyda’r ddau fath o gelf yn cael yr un pwysigrwydd ac effaith wrth wneud y gwaith. Dechreuasom ein perthynas gydweithredol rai blynyddoedd yn ôl gyda’r bwriad o weithio fel hyn, ac mae’r canlyniad reit unigryw ac yn cydblethu. O fewn y gwaith, gall cynulleidfaoedd brofi’r teimladau sy’n dod wrth wylio dawns a cherflun ar yr un pryd. Rwy’n edrych ymlaen at gynulleidfaoedd yn cael profi hyn wrth i’r darn fynd ar daith.”
Y darn olaf yn y rhaglen Gwefr | Surge yw darn newydd sbon o ddawns gan y coreograffydd o Gymru, Osian Meilir, o’r enw ‘Mabon’. Wedi’i ysbrydoli gan Chwedloniaeth Gymreig a straeon Cymreig y Mabinogi, bydd y coreograffydd o Gymru yn tynnu ar eu cefndir gwerin a chyfoes a dod â dehongliad newydd o’r cymeriadau llên-gwerin Cymreig hyn.
Mae Osian yn adnabyddus am eu coreograffi hwyliog sy’n tynnu ar ddiwylliant poblogaidd yn ogystal â threftadaeth ddiwylliannol. Mae eu gwaith ar daith, Qwerin, wedi cael ei berfformio ledled y byd gyda Croeso Cymru.
Bydd Mabon yn cynnwys gwisgoedd anifeiliaid ecogyfeillgar anhygoel gan y dylunydd o Gymru, Becky Davies, a cherddoriaeth gan chwaraewr y delyn deires, Cerys Hafana. Dyluniwyd y gwisgoedd i gynnwys chwe anifail o’r chwedl Gymreig a chafwyd ysbrydoliaeth o dirweddau a threftadaeth Cymru hefyd. Mae’r cerddor, Cerys Hafana, sy’n teithio ar yr un pryd â’r sioe, wedi cyfansoddi sgôr newydd i gyd-fynd â Mabon.
“Rwy’n hynod falch o gael rhannu Mabon gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt. Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn cael eu swyno gan y lên-gwerin hon o Gymru, ac yn awyddus i wybod mwy am ein diwylliant, straeon ac iaith gyfoethog. Rwyf wedi cael fy nghyfareddu gan y chwe chymeriad hynafol hyn, ac mae deall y stori ochr yn ochr ag artistiaid mor weledigaethol wedi bod yn hudolus.”
Bydd Gwefr | Surge yn teithio ledled Cymru a Lloegr, gan alw yng Nghaerdydd, Casnewydd, Bangor, yr Wyddgrug, Aberystwyth, Llundain ac Ipswich o fis Medi i fis Tachwedd 2025, cyn teithio i’r Almaen yn 2026.
Bydd gan bob dyddiad ar y daith Ddisgrifiad Sain a bydd perfformiadau gyda dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain ar 17 Medi yn Theatr y Sherman, Caerdydd, ac 17 Hydref yn The Place yn Llundain.
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.ndcwales.co.uk
Cefnogir y daith gan Colwinston, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, a chefnogir Mabon gan Foyle Foundation.