Mae Cyngor Sir Penfro yn dymuno penodi artist/artistiaid i greu modd newydd o ddynodi llwybr, sy’n greadigol ac yn barhaol, ar gyfer canol tref Hwlffordd, i ddathlu treftadaeth unigryw'r dref. Rhaid i'r gwaith celf gael ei wneud o ddeunyddiau gwydn a all wrthsefyll fandaliaeth e.e. metel, gwydr wedi'i atgyfnerthu neu garreg ac ni ddylid bod angen llawer o waith cynnal a chadw arno.

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan y Gronfa Ffyniant Bro drwy brosiect Calon Sir Benfro. Uchafswm y gyllideb sydd ar gael yw £90,000 i dalu am yr holl gostau gan gynnwys ffioedd a threuliau artistiaid, peirianwaith, deunyddiau a chostau gosod.

Bydd y contract yn cael ei ddyfarnu mewn dau gam. Mae Cam 1 yn alwad agored i fynegi diddordeb. Gwahoddir ymgeiswyr Cam 1 i gyflwyno dull artistig i'r briff. Bydd tri artist yn cyrraedd y rhestr fer a byddant yn cael eu gwahodd ar ymweliad safle, cwrdd â grwpiau o randdeiliaid a datblygu dyluniad cysyniad a chynnig wedi'i gostio. Bydd ffi o £2000 yn cael ei dalu i'r artistiaid hyn i gynnwys eu hamser, eu costau teithio a'u llety.

Dyddiad cau ar gyfer Mynegi Diddordeb - Cam 1 Dydd Iau 11 Ebrill

I wneud cais, dilynwch y camau hyn:

  1. Creu proffil ar gyfer https://etenderwales.bravosolution.co.uk/home.html 
  2. Mynd i'r tendr drwy'r adran PQQ sy'n agored i bob cyflenwr
  3. Chwilio am Creu Gwaith Celf i Ddynodi Llwybr ar gyfer Canol Tref Hwlffordd
Dyddiad cau: 11/04/2024