‘Creadigrwydd yw Camgymeriadau’ Sgwrs Artist: Lauren Heckler a Mariana Lemos

Canolfan Melville, Pen-y-Pound, y Fenni, Sir Fynwy NP7 5UD
Nos Fercher 18 Hydref 6-8pm
Am ddim, croeso i bawb, RSVP I to lucy@dacymru.com
Bydd lluniaeth ar gael.

Ymunwch â ni am sgwrs rhwng yr artist o’r Fenni Lauren Heckler a’r curadur Mariana Lemos.

Mae Lauren Heckler yn artist rhyngddisgyblaethol o Gymru sy’n gweithio ar draws perfformiadau, darluniadau, cyfryngau digidol ac ymyriadau cerfluniol. Caiff ei hymarfer ei siapio gan gysylltiadau cymdeithasol, ymchwil maes, a phroses sy’n breuddwydio drwy gadwyni o gysylltiadau. Ar hyn o bryd mae hi’n datblygu gwaith sy’n myfyrio drwy laddfa a phenbleth byw mewn corff sydd â salwch cronig, a’r hyn mae’n ei olygu i deimlo’n gartrefol yn arferion amser, lle, natur, corff, cyfeillgarwch, technoleg ac ati.

Mae Lauren wedi cydweithio ar waith celf cyhoeddus, wedi cyd-guradu fel artist preswyl ar-lein ac mewn person a rhaglenni ymgysylltu cymdeithasol, ac mae wedi cymryd rhan mewn nifer o brosiectau sy’n canoli deialog drawsddiwylliannol, yn ddiweddar ‘Llif / Flow’ a gyllidwyd gan y British Council ac a hwyluswyd gan Oriel Mission.

Mae Mariana Lemos yn guradur annibynnol yn Llundain. Mae ei hymarfer curadu yn canolbwyntio ar berfformiad, dylanwad a phrofiad corfforedig ym meysydd ffuglen, ôl-ddyneiddiaeth ffeministaidd/cwiar, ac afiechyd ac anabledd. Derbyniodd ei MFA mewn Curadu o Brifysgol Goldsmiths Llundain (2020), yn ogystal â'i BA mewn Celfyddydau Cain (2015). Mae Lemos wedi cyhoeddi testun gyda Flash Art, Concreta, Emergent Magazine, ac mae’n Gyd-olygydd Mercurius Magazine, yn aelod bwrdd o SALOON London ac yn un o’r aelodau sy’n trefnu’r Feminist Duration Reading Group. Mae ei phrofiad gwaith blaenorol yn cynnwys swyddi yn Angela de La Cruz Studio, Union Pacific, Black Tower, y Feminist Library, a’r Lisson Gallery. https://www.marianalemos.co.uk/

Hygyrchedd: Mae gan y lleoliad fynediad heb risiau wea thoiled i bobl anabl. Mae parcio i bobl anabl ar gael - ffoniwch y lleoliad i gadw lle ar 01873 853167. Ar gyfer unrhyw gwestiynau hygyrchedd, cysylltwch â lucy@dacymru.com.

-

Nesaf yn y gyfres o sgyrsiau gan artistiaid mae’r artist tecstilau Anya Paintsil, 25 Hydref (ar lein).