Bydd y sefydliad theatr Cymreig Company of Sirens mewn partneriaeth â Tanio Cymru yn ymweld â Berlin ym mis Medi i gyfarfod â chwmnïau theatr, grwpiau celfyddydau cymunedol ac arweinwyr ieuenctid i drafod eu cyfraniad at Gwt 9, archwiliad o weithgarwch asgell dde ym 1939 a heddiw. Byddant yn ceisio annog cyfraniad a barn y gymuned wrth greu drama newydd yn Saesneg, Cymraeg ac Almaeneg gydag elfennau o Iaith Arwyddion Prydain ac iaith arwyddion yr Almaen.