Cyn bo hir, bydd Volcano yn comisiynu pum perfformiwr i wneud perfformiadau byr unigol (tua 30 munud) yn ein lleoliad yn Stryd Fawr Abertawe. Dyma bedwaredd flwyddyn y gyfres gomisiwn llawrydd hon, a ddechreuodd yn 2022 fel Solo Duets for the Future. Y syniad y tu ôl i’r prosiect hwn yw annog perfformwyr i ddatblygu dulliau perfformio newydd o flaen cynulleidfaoedd bach brwdfrydig.
Byddwn yn rhyddhau'r briff ddiwedd mis Ionawr ac yn gofyn am gyflwyniadau trwy gydol mis Chwefror, gyda dyddiad cau yn gynnar ym mis Mawrth. Cynhelir perfformiadau ym mis Ebrill a mis Mai. Comisiynau pythefnos o hyd yw’r rhain.
Mae comisiynau wedi'u cadw ar gyfer artistiaid Du, Asiaidd neu Dreftadaeth Ddeuol, artistiaid sy’n creu gwaith yn Gymraeg, ac artistiaid b/Byddar neu anabl.
Os hoffech dderbyn yr alwad yn syth i'ch mewnflwch ebost, cofrestrwch eich diddordeb trwy'r linc.
Llun: Luke Hereford, Perfect Places, The Shape of Things to Come 2024