• Celfyddydau Cymunedol: Lleihau’r defnydd o blastig drwy ddulliau celfyddydol a chreadigol

  • Dyddiad Cau: 9yb, 29.7.19 / Ffi: £8,000

  • Hyd y cynllun: Awst 2019 - Mawrth 2020

  • Statws: Llawrydd

Mae Uned Celfyddydau Cymunedol, Cyngor Gwynedd yn dymuno comisiynu ymarferydd creadigol, mudiad neu gwmni i gynnal cynllun celfyddydau cymunedol i leihau’r defnydd o blastig yng Ngwynedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddyfeisio, gweinyddu, rheoli, darparu a gwerthuso’r cynllun. Cysylltwch am fwy o fanylion neu ymwelwch ag adran newyddion gwefan www.gwyneddgreadigol.com am y brîff llawn.

Mwy o Fanylion i'w cael oddi wrth Gwawr Wyn Roberts -  01286 679721 - gwawrwynroberts@gwynedd.llyw.cymru 

www.gwynedd.llyw.cymru/celf