BRIFF AR GYFER CYFLAWNI COMISIWN CELF GYMUNEDOL GYDAG YMGYSYLLTU A DEHONGLI
Amcangyfrif gwerth y gwaith: £6,000 yn cynnwys costau teithio
Hyd y contract: 6 mis
Prif gyswllt: Christine Moore, Rheolwr yr Ymddiriedolaeth christine.moore@addoldaicymru.org
Rydym yn gwahodd ceisiadau gan artistiaid / hwyluswyr sydd yn defnyddiau dulliau cydweithredol a chyfranogol yn eu gwaith, i gynnal cyfres o weithdai gydag aelodau’r gymunedol leol yn Aberdâr, ac yn deillio ohonynt, i greu gwaith celf i’w gynnwys mewn amryw o allbynnau dehongli.
Bydd yr artist yn rhywun sydd â diddordeb mewn gweithio oddi fewn i safle treftadaeth/hanesyddol yn benodol treftadaeth capeli, gyda diddordeb brwd yn y traddodiad Eisteddfodol / gwerin. Mae ethos o weithio’n gydweithredol a chyfranogol yn hanfodol.
Bydd yr Ymddiriedolaeth yn ystyried cyd-gomisiwn.
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y comisiwn hwn; mewn achos o rannu swydd, bydd yn rhaid i o leiaf un o’r cyflogai fod â’r gallu i siarad Cymraeg.