Bydd ieuenctid dawnus o bob rhan o ogledd Cymru yn cymryd rhan mewn cyngerdd lansio ar gyfer gŵyl gerddoriaeth ryngwladol.
Bydd unawdwyr yn ymuno â dau gôr ac ensemble ar gyfer y cyngerdd hudolus yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy am 7pm nos Iau, Mehefin 22.
Bwriad y digwyddiad yw codi’r llen ar Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru a gynhelir rhwng Medi 15 - 30, 2023.
Dywedodd y cyfarwyddwr artistig Ann Atkinson ei fod wedi bod yn benderfyniad ymwybodol i ganolbwyntio ar ieuenctid yn y cyngerdd lansio eleni.
“Ers ei sefydlu fwy na 50 mlynedd yn ôl mae’r ŵyl wedi rhoi cyfle i nifer fawr o gantorion ac offerynwyr yn ogystal â chyfansoddwyr i berfformio yn lleoliad ysblennydd yr Eglwys Gadeiriol gyda’i acwsteg ragorol o flaen cynulleidfa werthfawrogol.”
“I lawer dyma’r cam cyntaf tuag at yrfa broffesiynol ym myd cerddoriaeth ac rydym yn dymuno parhau â’r traddodiad hwnnw,” meddai.
Dywedodd Ann, sydd wedi bod yn gyfarwyddwr artistig yr ŵyl am yr 20 mlynedd diwethaf, y bydd y gyngerdd yn cynnwys y gantores ifanc Bethan Guiver o Lanfair Talhaearn, ger Abergele, a’r delynores nodedig Morwen Blythin, o Ruddlan.
Uchafbwyntiau eraill yn y cyngerdd lansio fydd perfformiadau gan y gitarydd, Jonathan Richards, y pianydd Victoria Ibragimova o Wcrain a’r clarinetydd Jon Guy, un o gyd-sylfaenwyr cerddorfa breswyl yr ŵyl NEW Sinfonia.
Hefyd yn cymryd rhan bydd ieuenctid o Ysgol Gynradd Glanrafon, Yr Wyddgrug, a enillodd sawl cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a gynhaliwyd yn Ninbych y llynedd, yn ogystal â Chôr y Gadeirlan o Lanelwy a thriawd ffliwt o Ganolfan Gerdd William Mathias.
"Mae gan Bethan lais arbennig iawn ac eisoes wedi ennill sawl gwobr am ei chanu. Mae ganddi ddyfodol addawol iawn o'i blaen," meddai Ann.
Mae’r ferch 17 oed yn ddisgybl blwyddyn 13 yn Ysgol Santes Ffraid, Dinbych, ac mae’n paratoi ar gyfer ei harholiadau Safon Uwch. Mae hi’n o brif gantorion Côr Eglwys Gadeiriol Llanelwy a dywed mai ei huchelgais yw bod yn athrawes. Yn ogystal, mae Bethan hefyd yn chwarae'r ffliwt pan fydd ganddi ychydig o amser sbâr.
Dechreuodd Morwen Blythin astudio'r delyn yn naw oed ac yn dilyn llwyddiant ar lefel leol a chenedlaethol parhaodd â'i hastudiaethau yn Ysgol Cerdd a Drama y Guildhall. Yna bu’n gweithio fel telynores ar ei liwt ei hun, gan berfformio mewn llawer o ddigwyddiadau i aelodau o’r Teulu Brenhinol a llu o enwogion eraill.
Teithiodd Morwen o amgylch y DU a pherfformio yn y West End gyda nifer o sioeau cerdd. Fel unawdydd, mae hi wedi rhoi datganiadau ac ymddangosiadau cyngherddau yng Nghymru a Lloegr ac mae bellach yn diwtor gyda Chanolfan Gerdd William Mathias ac mae hefyd yn gyd-gyfarwyddwr Telynau Clwyd. Mae Morwen hefyd yn cyfeilio i Cytgan Clwyd a Chôr Ieuenctid Sir y Fflint yn ogystal â bod yn diwtor ac arweinydd gweithdai.
Sefydlodd y cyfansoddwr Cymreig enwog William Mathias yr ŵyl yn 1972 ac mae’n cael ei hystyried yn un o uchafbwyntiau calendr diwylliannol y Gogledd.
“Gweledigaeth William Mathias oedd dod â pherfformwyr o’r radd flaenaf i bobol gogledd Cymru yn hytrach na’u gorfodi i deithio i gyngherddau yn Lerpwl neu Fanceinion.”
“Mae’r ŵyl wedi rhoi’r cyfle i bobl o bob cefndir ac o bob oed brofi perfformiadau byw o wahanol genres o gerddoriaeth glasurol, gan berfformwyr o’r safon uchaf, tra’n hyrwyddo datblygiad diwylliant a cherddoriaeth Gymreig ymhellach o fewn y rhanbarth,” meddai.
Datgelodd Ann mai thema'r ŵyl eleni yw 'Gorwelion'.
Meddai: “Mae’n cynnwys ystod eang o arddulliau cerddorol gan rai artistiaid sy’n ymddangos yn Llanelwy am y tro cyntaf ac eraill sydd wedi ymweld â’r ŵyl o’r blaen.”
"Fel yn y blynyddoedd blaenorol bydd yr ŵyl yn cynnwys cerddoriaeth newydd gan gyfansoddwyr o Gymru. Eleni bydd tri premiere rhyngwladol gan ein bod wedi comisiynu Paul Mealor, Gareth Glyn a Jon Guy, a bydd eu cyfansoddiadau yn cael eu perfformio am y tro cyntaf yn ystod yr ŵyl."
Ymhlith yr uchafbwyntiau yn ystod yr ŵyl bythefnos o hyd bydd dychweliad drymwyr Mugenkyo Taiko i Lanelwy. Dywedodd Ann Atkinson fod galw mawr iddynt ddychwelyd i'r ŵyl ar ôl codi to'r Gadeirlan y llynedd.
Bydd Kabantu, y pedwarawd acwstig o Fanceinion, yn cyflwyno eu cerddoriaeth wreiddiol eclectig, wedi’i hysbrydoli gan gerddoriaeth werin, a bydd yr ensemble lleisiol Tenebrae, sydd wedi ymweld â’r ŵyl ar ddau achlysur blaenorol, yn perfformio cerddoriaeth y Dadeni ac yn nodi 400 mlynedd ers marwolaeth y cyfansoddwr o Loegr, William Byrd.
Bydd cyngerdd dwyieithog, Gorwelion y Gair, yn cynnwys Corau Meibion Trelawnyd a Bro Glyndŵr – dau gôr sy’n cael eu harwain gan Ann Atkinson fel eu cyfarwyddwr cerdd. Yn ymuno â nhw bydd Côr BSL Dee Sign a’r grŵp gwerin hynod boblogaidd, Pedair. Bydd y bardd Aled Lewis Evans hefyd yn cymryd rhan yn y digwyddiad.
Bydd y feiolinydd Americanaidd Tai Murray a’r pianydd Teleri Sian o Gymru yn ymuno â cherddorfa NEW Sinfonia, Cerddorfa Breswyl yr ŵyl, mewn cyngerdd. Ac mae rhaglen y cyn-delynores Frenhinol Catrin Finch a’r feiolinydd Gwyddelig Aoife Ni Bhriain wedi’i hysbrydoli gan wenyn yn teithio dros y gorwel o Gymru i Iwerddon yn y 6ed Ganrif.
Mae cyngherddau ar-lein gŵyl 2022 bellach ar gael i’w gweld am ddim ar wefan yr ŵyl, nwimf.com, gyda rhoddion yn cael eu derbyn yn ddiolchgar. Mae rhaglen Red Priest 'Truly Madly Baroque' ac Opera Cymunedol Paul Mealor 'Gelert' yn y Gymraeg a'r Saesneg bellach wedi'u hychwanegu i’r cyngherddau sydd ar gael i’w gweld.
Mae tocynnau ar gyfer y cyngerdd lansio a rhagor o fanylion am raglen yr ŵyl ar gael ar-lein yn nwimf.com. Mae tocynnau hefyd ar gael o Cathedral Frames, Llanelwy - 01745 582929 (dydd Mercher – dydd Gwener, 10 - 4) a Theatr Clwyd dros y ffôn - 01352 344101 (dydd Llun – dydd Sadwrn, 10 - 6 ).
(Llun © Stephen Cain - GGRGC 2022 Opera Cymunedol 'Gelert')