Mae cerddoriaeth yn rhoi gobaith i ni, yn ein helpu i alaru, yn ein hatgoffa i chwerthin, ac yn gallu trawsnewid ein hysbrydoliaeth i weithredu. Mae'r cwrs hwn ar gyfer cerddorion, gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant cerddoriaeth, artistiaid a chyfansoddwyr sain sydd eisiau archwilio rôl cerddoriaeth, sain, geiriau a’r gair llafar o fewn ac yn erbyn cefndir o newidiadau hinsoddol, ecolegol a diwylliannol. Yn y cwrs preswyl 5 diwrnod hwn – sy’n gyfuniad o weithdai, darlithoedd a stiwdio sain arbrofol wedi'i chreu ar y cyd – cewch eich tywys drwy gymysgedd o sgyrsiau, gweithdai ac arbrofion ymarferol a fydd yn eich helpu i archwilio rôl eich cerddoriaeth ac ymarfer sain mewn cyfnod o gwymp yr hinsawdd. Bydd yn gyfle i chi ddatblygu eich syniadau, myfyrio, caffael gwybodaeth newydd, datblygu prosiectau presennol a mynd ar drywydd syniadau newydd, chwarae ac arbrofi – ar eich pen eich hun, ym myd natur a gydag eraill.

Yn cynnwys: Yr ymgyrchydd llenyddol a’r artist hip-hop Rufus Mufasa o Gaerdydd, yr artist sain Jozef Harris, y dylunydd sain Loss><Gain, yr organydd a’r cyfansoddwr James McVinnie, yr awdur a’r newyddiadurwr Jude Rogers, y cerddor a’r cynhyrchydd Rupert Reed, ac Ed O'brien o Radiohead.

27 Medi – 1 Hydref 2023