Heddiw bydd cerdd gomisiwn gyntaf Hanan Issa yn ei swydd newydd fel Bardd Cenedlaethol Cymru yn agor digwyddiad ar-lein tri diwrnod o hyd sy’n cael ei gynnal gan Cyngor Celfyddydau Cymru am 12 canol dydd.

Cynhelir Dychmygu’n dyfodol: sgyrsiau am y celfyddydau yng Nghymru ar-lein rhwng 20 a 22 Medi a darlleniad o’r cherdd gan Hanan ei hun fydd yn agor y digwyddiad am 12 canol dydd heddiw.

Mae’r gerdd, The ABCD’s of Equal Opportunities yn fyfyrdod grymus ar hunaniaeth a pherthyn. Bydd Iestyn Tyne hefyd yn cyflwyno ei ddehongliad ef yn Gymraeg o gerdd Hanan yn yr un digwyddiad. Dyma ddehongliad Iestyn o gerdd Hana Issa:

ABCCh Hawliau Cyfartal

 

A glywaist ti erioed am ymglymiad cwantwm?

Baich credu nad wyt ti’n perthyn am fod dy wddw’n

Cau am Arabeg pan fydd ffrind gwyn yn colli rhywun annwyl.

Chwarae gêm y ffurflen fonitro, honno sy’n bodoli er mwyn i ni

 

Amcangyfrif ac ystyried pa nifer yn union o

Bobl a ymdrochodd mewn llwch siocled yn 2020 pan wnaethpwyd

Camgymeriad yn y ffatri Lindt honno, gan orchuddio ceir a simneiau’r dre â

Choco. “Mae breuddwydion yn dod yn wir!” meddai rhywun, unwaith.

 

A glywaist ti erioed am ymglymiad cwantwm? O’u tynhau’n

Blethi, mae’r elfennau hollt hynny ­sy’n

Cadwyno trwy bob perthynas hirbell yn herio anghrediniaeth Einstein yn

Chwyrn. Dychmyga! Y cyfan oedd ei angen i’w wrthbrofi oedd eirth dŵr.

 

Ac rydan ni’n gwybod sut y gall dau endid sy’n glymau o arwahanrwydd, sy’n

Bodoli yn rhywle rhwng ffiniau amser a gofod, rywsut brofi

Cyffyrddiad gweithredoedd y llall, a

Chydymdeimlo. Fel yr adeg honno, pan gododd y protestwyr yn Iraq eu ffonau

 

A dweud wrth y milwyr, “rydan ni’n eich recordio chi.

Byddwch yn ofalus, mae Allah’n gwylio”. Fe deimlais i hynny. Dro arall,

Clywaf chwerthin plant ysgol wrth y goleuadau traffig. Rwy’n

Chwilio’n ofer am y geiriau i’w rhybuddio am yr hyn sydd i ddod.

 

Am yr oerfel a’r dicter. Y fath oerfel o wylio cegau

Blonegog, soeglyd yn traflyncu tiroedd

Cymru. Am byth, fe fyddan nhw’n lladrata dŵr Cymru tra’n

Chwarae’r ffon ddwybig, yn tynnu’n golygon yn ôl at rengoedd y ffoaduriaid sydd

 

Ar hyd ein glannau fel ewyn ton Hokusai. Calonnau’n fwy

Brau na chyrff heb siacedi diogelwch yn

Cydio’n dynn wrth atgofion gwlyb-domen. A

Chwyd yr un lleithder drachefn pan

 

Ânt i wynebu, am y tro cyntaf, gwestiynau ffyrnig y

Banc neu’r Meddyg. Fe brynent eu bara gartref pe

Caent. Pam na allwn ni gynnig ail gartrefi iddyn nhw? Nid rheiny sy’n

Chwalu’r tirweddau lleol ond mannau

 

Agored i ofalu amdanynt ac, insha Allah, i

Bwyllo, ac anadlu fewn. Pan fydda i’n dweud Syria mae o’n swnio’n debyg i

Cofiwch, weithiau. Alli di deimlo’r llwch siocled ar dy dafod eto? Allwch

Chi? Diolch am roi o’ch amser i ateb y cwestiynau hyn.

 

Er mwyn mynychu’r digwyddiad a chlywed Hanan Issa yn darllen ei cherdd, a Iestyn Tyne yn darllen ei ddehongliad Cymru, cofrestrwch ar gyfer y digywddiad trwy glicio ar y ddolen hon https://events.zoom.us/ev/AstXlTI35fGhgmulZQelpuRokJoyQyfz04nrJ6artqSvSQcIiz85~AggLXsr32QYFjq8BlYLZ5I06Dg 

Caiff cynllun Bardd Cenedlaethol Cymru ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am raglen y digwyddiad ar gael yma.

DIWEDD                                                                     20 Medi 2022